MR. EVAN R. JONES. MINNEAPOLIS, MINNESOTA.

Gorphenaf 30ain, 1892, yn Minneapolis, Minnesota, yn 55 mlwydd a 7 mis oed, o'r cancer yn y cylla, Evan R. Jones.

Mab ydoedd i Hugh ac Ellen Jones. Ganwyd ef yn Llwynpiod, Sir Gaernarfon. Daeth i'r wlad hon pan yr oedd yn dra ieuanc, tua 44 o flynyddoedd yn ôl, a bu yn byw tua Pittsburg. Pennsylvania, a lleoedd eraill. Yn mhen amser ymsefydlodd yn Utica. New York, lle y priododd ei anwyl briod Jane, merch y diweddar John Watkins. Deerfield, yr hon sydd yn fyw ar ei ôl. Ganwyd iddynt bedwar o blant, o'r rhai y claddwyd dau yn Utica: mae yn fyw fab a merch (Mrs. Helen Hopkins, Minneapolis). Bu yr ymadawedig yn byw yn Utica am dros 30 mlynedd, ac yn cario yn mlaen fusnes mewn marmor a chofgolofnau.

Symudodd y teulu i Minneapolis tua thair blynedd yn ôl. Yr oedd Mr. Jones yn ŵr tra adnabyddus yn Utica, yn mhllth ei genedl ei hun a chenedloedd eraill, ac yr oedd yn aelod o Gyfrinfa Iforaidd "Goronwy."

Yr oedd yn meddu nodweddion cymeradwy yn ei gymeriad; yn ddyn o argyhoeddiadau cryfion, ac yn ystod y tair blynedd ag y daethym i yn adnabyddus ag ef yr oedd yn ffyddlawn iawn gyda'r achos crefyddol yn y ddinas hon. Nid oedd yn siaradwr mawr, ond yr oedd bob amser yn siriol a deallus, ac yn cael ei barchu gan yr eglwys a chan ei gydnabod. Byddai yn ffyddlawn gyda'r ysgol Sabbothol ac yr oedd ganddo feddwl uchel o bob peth Cymreig.

Gellir dweyd ei fod yn caru ei genedl ac yn caru ei iaith. Yr oedd yn ddeallus yn yr Ysgrythyrau ac yn caru eu chwilio a'u hesbonio. Yn awr, efe a fu farw. Onid ydyw yntau wedi myned i chwyddo y mwyafrif mawr yn y byd anweledlg? Y mae ei ddosbarth yn yr ysgol Sabbothol, ei gartref, yn uno mewn hyawdledd mud i gadarnhau ei fod wedi dechreu taith nad oes neb o'r teithwyr yn dychwelyd yn ôl. Yr oedd yn hyderus fod ei farn a'i fater yn dda.

Casglodd lluaws o Gymry y ddinas i'w gladdedigaeth, ac anfonwyd pulw o flodau ar ei arch gan ei ddosbarth yn yr ysgol Sabbothol, a chan rai o'i gyfeillion. Gweinyddwyd yn ei gladdedigaeth, sef cyn cychwyn ei weddillion i Utica, yn Saesneg gan yr ysgrifenydd a chan Dr. Smith Baker.

Bydd ei anwyl briod. Mrs. Jones, yn teimlo yn hiraetbus a galarus ar ei ôl. Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon a fyddo yn nodded iddi ac yn arweinydd i'w phlant.
JOSEPH ROBERTS.

Y Drych ~ Awst 11eg 1892.