MR. GRIFFITH R. JONES. POWEEL, SOUTH DAKOTA.

Hydref 16eg, 1892, Griffith R. Jones, Powell, South Dakota. Dyoddefodd gystudd trwm o'r darfodedigaeth am y bedair blynedd olaf o'i oes.

Gofalwyd am dano yn dyner gan ei unlg ferch a'i fab-yn-nghyfraith, Mr. a Mrs. James D. Jones. Ipswich.

Daeth Mr. Jones i'r wlad hon o ardal Tanygrisiau, Ffestiniog, Gogledd Cymru, yn l869. Ymsefydlodd yn Bristol Grove, Minnesota, ac wedi hyny yn Lime Spring, Iowa. Symudodd i Powell tua 10 mlynedd yn ôl; yr oedd ef yn un o'r sefydlwyr cyntaf yno.

Bu yn aelod ffyddlawn gyda'r T. C. hyd derfyn ei oes, a bu farw mewn tangnefedd, yn 59 mlwydd oed.

Cymerwyd ei weddillion i'w claddu i Lime Spring, Iowa, pryd y daeth tyrfa fawr a pharchus yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i hen gymydog.

Gweinyddwyd wrth y bedd gan y Parcn. Edward Joseph. Pregethwyd gan yr ysgrifenydd bregeth angladdol i dyrfa o gydnabod iddo yn Gymry a Saeson.

Heddwch i'w lwch, a'r Arglwydd a fyddo yn llon'd ei addewid i'w ferch sydd wedi ei gadael i alaru.
OWEN JONES.

Y Drych Rhagfyr 22ain 1892.