MR. HUGH S. JONES. MINNEAPOLIS, MINNESOTA.
Ionawr 25ain, 1892, yn Minneapolis, Minnesota, yn nhŷ John a Mary Owens. ei ferch, yn 86 mlwydd oed, Hugh S. Jones.Ganwyd ef yn Tanygraig. Blaenau Ffestiniog, Gogledd Cymru, yn y seithfed flwyddyn o ddechreuad y ganrif bresenol. Yr oedd yn fab i hen gymeriad nodedig a chrefyddol a adwaenid wrth yr enw Sam Jones, Tanygraig - un nodedig iawn am ei ddawn gweddi. Ganwyd i Sam Jones a'i briod ddeg o blant, a Hugh S. Jones oedd yr hynaf o honynt, a'r diweddaf o honynt i ymadael a'r fuchedd hon. Brodyr iddo ef oedd John Hughes, siopwr yn Penygroes, ac Owen Jones, Penbrock House, y rhai oeddynt yn ddiaconiaid gweithgar a pharchus gyda'r T. C. yn Nghymru.
Ymfudodd Hugh S. Jones i'r wlad hon tua 43 mlynedd yn ôl, ac ymsefydlodd yn mysg bryniau Collinsville, New York, lle y treuliodd ei fywyd Americanaidd hyd o fewn saith mlynedd yn ôl, pan y symudodd at ei ferch, Mrs. Mary Owens, 1 Cambria, Wisconsin. Tua chwe blynedd yn ôl symudodd y teulu hwn o Cambria i Minneapolis. Yr oedd chwech o'i blant wedi eu geni yn Nghymru, a ganwyd dau blentyn yn y wlad hon. Y mae pump o'r wyth yn fyw dau fab a merch yn Lima, Ohio, un mab yn nhalaeth New York, a'r ferch arall yn Minneapolis.
Bu farw ei anwyl briod, Margaret Jones, yn Collinsvllle, tua 15 mlynedd yn ôl, ac ynou y claddwyd hi.
Ymunodd Hugh S. Jones a chrefydd yn Ffestiniog, pan yr oedd yn lled ieuanc, a pharhaodd gyda hi hyd angeu. Yr oedd yn meddu cymeriad cryf, a gweddol arw, fel y mynyddoedd uchel yn nghanol y rhal y ganwyd ac y magwyd ef. Nodwedd ei gymeriad a nodwedd ei grefydd oedd cadernid a gonestrwydd. Cafodd gartref gofalus a chynes yn niwedd ei oes gyda'i ferch Mrs. Owens, a thrwy ofal ei blant am dano.
Pregethwyd pregeth angladdol iddo gan y Parch. Joseph Roberts, pan y gwnaed rhai sylwadau ar yr elfenau a gyfansoddant ei fywyd fel dyn a Christion. Claddwyd ef yn Lakewood Cemetery, Minneapolis.