MR. JOHN PARRY JONES. HARRISBURG, PENNSYLVANIA.

Ionawr 31ain, 1892, yn 58 mlwydd, 6 mis oed, yn Harrisburg, Pennsylvania, John Parry Jones, gynt o Bron-y-Wyddfa, Nant Peris, Carnarfon.

Ymfudodd i'r wlad hon oddeutu naw mlynedd yn ô1, ac ymsefydlodd yn South Dakota. Bu yn flaenor ffyddlon gyda'r Methodistiaid Calfinaidd er yn ieuanc iawn, yr oedd o gymeriad diargyhoedd, yn ddarllenwr mawr, ac yn fwy goleuedig na'r cyffredin; yn fawr ei barch ac yn Gristion gloew.

Brawd ydoedd i William Parry Jones, Bron-y-Wyddfa, Llanberis, yr hwn sydd yn flaenor parchus gyda'r Methodistiad yn Rehoboth. Gadawodd chwech o blant bychain i alaru ar ei ôl.

Y Drych Chwefror 18fed 1892.