MR. ROBERT EDWARDS, DETROIT, MICHIGAN.
Rhagfyr 6ed, yn Detroit, Michigan, Mr. Robert Edwards, gynt o'r ddinas hon, yn 31 mlwydd oed.Ganwyd ef yn Penygroes, Llanllyfni, sir Gaernarfon. Daeth i'r wlad yma yn y flwyddyn 1841. Treuliodd y rhan fwyaf o'r amser yn ganlynol yn ninas Caerefrog-Newydd.
Pan y cymerwyd ef yn glaf, yr oedd yn cartrefu gyda'i frawd, William Edwards, yn y lle uchod. Ni bu ond deng niwrnod yn sâl; ymosodwyd arno yn gyntaf â'r Eisglwyf, wedi hyny cafodd y Dwymyn Geriaidd, ac yn ganlynol y Dwymyn Dyphoid.
Bu y trengedig yn aelod o eglwys y T. C. yn y ddinas hon, ond ymadawsai ers tro. Ni ddywedai nemawr yn ei gystudd, tra y gellai, ac am y ddau ddiwrnod olaf, yr oedd grym ei glefyd yn gorchfygu ei synhwyrau. Sylwai ei frawd ei fod yn siarad ìlawer am angeu ychydig cyn iddo gael ei gymeryd yn glaf, a bwriadai ymofyn aelodaeth yn yr Eglwys Bresbyteraidd, yn y lle crybwylledig.
Fel dyn, yr oedd yn gyfeiligar a siriol, o dymher haelfrydig a maddeugar; a galar mawr i'w frodyr oedd ei golli.
Hebryngwyd ei weddillion marwol gan luaws o'i gydnabod ar yr wythfed; a phregethwyd ar yr achlysur, gan y Parch. Mr. McAllen, oddiar 2 Cor. xiii. 14.