MRS. KATE JONES. BANGOR, PENNSYLVANIA.
Ebriil 5ed, 1892, oddeutu 50 mlwydd oed, Mrs. Kate Jones, priod Mr. Thomas O. Jones, Bangor, Pa., a merch Cadwaladr a Gwen Lewis, Llwyn-y-gell, Blaenau Ffestiniog.Difrifolwyd yr ardal gan sydynrwydd ei hymadawiad, a dull anarferol dyfodlad angeu i'w chyrchu ymaith. Yr wythnos flaenorol pigwyd hi yn el bys gan yspardun ceiliog, a gwenwynodd ei gwaed. Gweithiodd y gwenwyn mor ddirgelaidd fel nad oedd hi na neb yn dychymygu fod perygl hyd o fewn oddeutu 15 awr i'w marwolaeth. Yn ystod yr oriau hyny dyoddefodd lymder eithaf y gelyn diweddaf.
Ni chafodd ddweyd un gair wrth ei hanwyliaid o herwydd gen-gload (lockjaw). Dywedodd gan waith fod arni ofn marw, ac yr oedd dull ei hymddatodiad yn hynod o ddifrifol, ond argyhoeddiad pawb yw iddi rodio ar hyd y glyn o ben i ben heb dderbyn niwed, "Canys yr wyt Ti gyda mi." "Mewn ymddygiad rhodiodd fel y gweddai i santeiddrwydd, nid yn enllibaidd, nid yn ymroi i win lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaloni, yn bwyllog, yn bur, yn gwarchod gartref yn dda, fel na chablwyd gair Duw" o'i hachos.
Yr oedd yn eithriadol o bwyllog a hunanfeddianol. Ac nid pwyll oer dideimlad ydoedd, eithr pwyll natur hynaws a chalon ddefosiynol. Ei phrofiad yn y gyfeillach ddiweddaf a fwynhaodd oedd. "Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddiarni." A thestyn y bregeth yn ei hangladd oedd, "Nid fel y rhai hyn yw rhan Jacob, canys lluniwr pob peth yw efe, ac Israel yw gwialed ei etifeddiaeth ef" (Jer. 10 :16). Duw yw rhan y duwiol a'r duwlol yn etifeddiaeth Duw.
Gadawodd ar ei hol briod, dwy ferch a mab, ac mae dwysder eu galar a chwerwder eu gofid yn enyn cydymdeimlad pob perchen teimlad. Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol yn nghapel y T. C., lle y bu yn aelod gwir dda a gwerthfawr am yn agos i ddeunaw mlynedd - angladd hynod am ei faintioli a'i ddwysder prudd. Cynorthwywyd y gweinidog gan y Parchn. E. G. Roberts a John J. Williams.
JOHN HAMMOND.