MRS. MARGARET JONES. WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.
Chwefror 16eg, 1892, yn West Bangor, Pennsylvania, Mrs. Margaret Jones, priod Abel Jones. U H.Ymfudasant i'r wlad hon o gymydogaeth Llanberis er's dros ddeugain mlynedd yn ôl. Gadawodd briod, pump o blant a lluaws o wyrion mewn galar ar ei hol.
Yr oedd yn wraig grefyddol ac yn fam yn Israel. Dyoddefodd ei rhan o gystuddiau a phrofedigaethau y byd; ond y mae genym le i obeithio ei bod erbyn hyn yn gallu edrych ar y cwbl fel "byr ysgafn gystudd, ace yn odidog ragorol, wedi gweithredu tragwyddol bwys gogoniant iddi hi."
Cafodd ei hamddifadu o lawer o freintiau yr eglwys yn ei blynyddoedd diweddaf yn enwedig; ond deallwn er hyny ei bod yn gallu tynu yn helaeth o ffynonau yr iachawdwriaeth. Yr hen benillion oedd yn cynal ei meddwl yn el chystudd oeddynt -
"Yn y dyfroedd mawr a'r tonau," a.y.
"O Anfeidrol rym y cariad." a.y.
"Am fod fy Iesu'n fyw," a.y.
Canwyd y rhai hyn yn ei hangladd, yr hwn gymerodd le ar y l8fed. Gweinyddwyd ar yr achlysur yn Gymraeg gan y Parch. J. Cadwaladr, ac yn Saesneg gan y Parch Mr. Stewart. Dymunwn i'w phriod a phlant feddwl am dani."Ffydd yr hon dylynwch, gan ystyried diwedd ei hymarweddiad."
W. C. R.