MR. ROBERT W. JONES. WILLARD STATE HOSPITAL, NEW YORK.
Medi 28ain, 1892, yn Willard State Hospital, New York, yn 61 mlwydd oed, Robert W. Jones, neu fel yr adnabyddid ef yn nghylchoedd chwarelau New York a Vermont, "Robert Jones Pen yr Alit Goch."Ymfudodd i ardal Middle Granville o Llanllyfni yn mis Awst, 1872; ond yn fuan symudodd i Salem.
Yn Rhagfyr, 1873, yn fuan ar ôl iddo ddod drosodd, claddedd ei briod yr hon oedd ferch i William Griffith Davies, Cilfodan, Llandwrog. Gogledd Cymru, ac yn chwaer i Griffith Williams, yr hwn sydd adnabyddus fel gwerthwr llechau i amryw o gwmniau yn Nyffryn Nantlle.
Pan y bu ei briod farw gadawyd Robert mewn gwlad estronol yn weddw gyda saith o blant bach amddifad, sef Mary, Maggie, Jane, Lizzie, Ann, Nellie a Kate. Mae chwech o'r rhai hyn yn fyw i alaru ar ei ôl, ac un o honynt wedi ei ragflaenu, sef priod Owen Prichard, Salem. Bu yn dad tyner a gofalus pan oedd y plant yn hynod o fychain; ac yr oedd ganddo feddwl mawr o'i ferched bob amser, a hwythau o hono yntau.
Yr oedd yr ymadawedig yn dduweinydd craff a manwl, yn ddarllenwr mawr; ac yn gryf a galluog mewn dadl; yr oedd hefyd yn gerddor medrus, ac yn hynod hoff o ganu. Oherwydd gwaeledd yr oedd wedi cael el amddifadu oddiwrth ei berthynasau er's amryw o flynyddoedd. Yr oedd yn well trwy yr haf diweddaf nag y bu er's blynyddoedd; ond ychydig o ddyddiau cyn ei farwolaeth cafodd y bronchitis, ac er pob gofal meddygol colli y dydd a wnaeth.
Claddwyd ef yn Salem, Hydref 1af, 1891, wrth ochr ei anwyl briod. Cafodd gladdedigaeth barchus, y Parch. McKenzle, Salem, yn gweinyddu.
Bydded i'w ferched a'i wyrion ymdawelu ac ymofyn am gyffelyb grefydd a'u tad.
Ni waeth peidio colli dagrau
Hyd y llwybrau gerddai gynt;
Gwell yw gadael ei rinweddau
I arogll yn y gwynt;
Gwell i ni yw peidio wylo,
Tra efe yn ngwlad yr hedd,
Eto cadwer llwch y Cristion
Hyd y farn mewn tawel hedd.
J. CYNFRIG JONES.