MR. WILLIAM H. JONES. MINNEAPOLIS, MINNESOTA.
Mai 8fed, 1892, yn 67 mlwydd oed, William H. Jones, Minneapolis, Minnesota, mab i'r diweddar Barch. Hugh Jones, Columbus, Wisconsin, neu Hugh Jones, Bettwsycoed, fel y gelwid ef yn Nghymru.Ganwyd William H. Jones yn y lle hwnw rai blynyddoedd cyn i'r teulu symud i'r wlad hon. Ymfudodd y Parch. Hugh Jones ei dad. yn 1845, gan ymsefydlu yn Columbus, Wisconsin, ac efe oedd un o'r sefydlwyr cyntaf yn y gymydogaeth hono.
Derbyniodd William Jones addysg yn Nghymru, a phrentisiwyd ef yn siopwr. Bu yn gwasanaethu yn y cymeriad hwnw yn Lerpwl, Llundain, ac yn yr Iwerddon. Daeth ar ôl ei rieni i'r wlad hon yn 1849. Aeth yn ôl drachefn, ac wedi hyny dychwelodd i'r wlad hon yr ail waith yn 1856.
Yn y flwyddyn hon ymbriododd â Miss Sarah Jane McKey yn Lerpwl. Ar eu dychwellad ymsefydlasant yn Cambria, Wisconsin. Buont yn dylyn eu masnach yno am rai blynyddoedd; wedi hyny symudasant i Bangor, yna i Berlin, Wisconsin, ac yn ddiweddaf oll i Minneapolis, tua deng mlynedd yn ôl. Ganwyd iddynt chwech o blant, ac y mae pump o honynt yn fyw. Ni chafodd Mr. Jones ond byr gystudd.
Yr oedd yn y capel y Sabboth blaenorol, ac yn mwynhau iechyd arferol. Cafodd oerfel trwm, ac am chwech o'r gloch boreu Sabboth ehedodd ei ysbryd at Dduw. Yr oedd yn gymeriad ar ei ben ei hun i raddau helaeth iawn. Cafodd ei fagu yn grefyddol, a bu yn aelod o eglwys y T. C. ar hyd ei oes. Gwrandawodd ar ddoniau goreu Cymru, ac yr oedd ganddo feddwl mawr a pharchus nodedig o'r hen bobl ac o'r hen bregethwyr. Yr oedd yn ddyn o farn dda am wirioneddau crefydd, ac yn edrych arnynt yn ei ddull naturio1 ei hun. Rhaid ei fod wedi darllen llawer, wedi sylwi yn fanwl, ac wedi cofio yn dda yn moreu ei oes Nid oedd fod syniad yn newydd yn ychwanegu dim at ei werth yn ei olwg ef. Yr oedd yn ddyn cywir yn ei holl drafodaeth fasnachol; yn gyfalll cywir a dyddan, ac yn ffyddlawn gyda chrefydd.
Casglodd tyrfa fawr i'w angladd, pan y gweinyddwyd gan yr ysgrifenydd a'r Parch. Dr. Black. Dygwyd et i'w gladdu i Bangor, Wisconsin.
JOSEPH ROBERTS.