MR. JOHN MILES. ROCKFORD, ILLINOIS.
Ionawr 25ain, 1892, yn Rockford, Illinois, yn 32 mlwydd oed, John Miles, o'r inflammation of the bowels. Cafodd gystudd trwm am dair wythnos. Mab ydoedd yr ymadawedig i Evan a Catherine Miles, Towyn. Meirionydd. Daeth i'r wlad hon yn l882, gan sefydlu yn Columbus, Ohio, ac yn 1889 symudodd oddiyno i Chicago. Ionawr 14eg 1881, ymunodd mewn glan briodas â Matiie E. Jones, Columbus.Yr oedd ein cyfaill yn aelod o eglwys y T. C. er yn fore. Cafodd gladdedigaeth barchus Ionawr 23ain pryd y gweinyddwyd yn y tŷ ac yn y capel ac ar lan y bedd yn West Cemetery, gan y Parch. D. Harkness, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. Dr. Richards (Pres.). Gadawodd ar ei ôl wraig ac un plentyn.