MR. WILLIAM R. MORRIS, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Medi 6ed, 1892, bu farw y brawd anwyl William. R. Morris, yn 75 mlwydd oed, yn nhy ei ferch, Mrs. Albert Arnest, 13 Hart Street, Utica, New York, a chladdwyd e£ y dydd Gwener canlynol wrth ochr ei anwyl briod oedd wedi ei ragflaenu ryw chwe' blynedd. Gwasanaethwyd yn Utica gan y Parch. R. G. Jones, D. D., ac wrth y bedd yn Maddison Co., gan y Parch. B. D. Davies, a phregethwyd pregeth angladdol iddo yn Moriah nos Sabboth, Tachwedd 9fed, gan y Parch. Hugh Davies, Hyde Park, oddiar Salm 37: 37, "Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn; canys diwedd y gŵr hwnw fydd tangnefedd," yn yr hon y caed darlun da o'r Cristion didwyll W. R. Morris.

Ganwyd Mr. Morris, yn y flwyddyn 1817, yn mhlwyf Abererch, yn agos i Bwllheli, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Yr oedd yn un o naw o blant. Enwau ei dad a'i fam oeddynt Richard ac Ellen Morris. Nid oedd y tad na'r fam yn proffesu crefydd pan oedd William yn fachgen; felly cafodd ei adael at ei ryddid i fyned i le o addoliad neu beidio, ac nid ydyw yn ymddangos ei fod wedi myned i'r ysgol Sabbothol o gwbl hyd nes yr oedd tua 12 oed, pryd y dechreuodd fyned i un oedd yn cael ei chynal mewn capel i'r Bedyddwyr yn agos i Fourcrosses. Bu yn myned i'r ysgol hon yn gyson iawn am tua blwyddyn; ond un Sabboth cafodd gerydd llym iawn gan ei athraw am rywbeth oedd wneyd mae'n debyg, ac nid aeth ar ôl hyny i Ysgol Sul y Bedyddwyr.

Fodd bynag, medd ef ei hun: "Dechreuais fyned yn gyson iawn i gapel y T. C, a chefais flas mawr ar yr Ysgol Sabbothol; ac yn wir, ar foddion gras yn gyffredinol, fel na fyddwn yn colli yr un moddion yn y capel." Mae yn ymddangos ei fod erbyn hyn wedi dyfod i feddwl yn lled ddwys am bethau crefydd, a hyny yn fwyaf neillduol trwy ddylanwad ei ewythr o frawd ei fam, yr hwn oedd yn ddyn crefyddol, ac yn swyddog yn yr eglwys. Yr oedd William wedi bod yn byw gyda y teulu hwn am tua chwe' mis, a chafodd y weddi deuluaidd, nos a boreu, ddylanwad mawr arno, yr hyn na chafodd gartref, a gadawodd argraff ar ei feddwl tra bu byw.

Pan oedd gwrthddrych ein cofiant tua 14 oed, yr oedd gryn adfywiad ar grefydd tua Fourcrosses - cyfarfodydd gweddio yn y tai bron bob nos, a lluaws yn cyrchu i'r capelau, ysbrydoedd y bobl a'r plant yn cael eu gwresogi gan gariad at Iesu Grist - yr oedd yntau yn teimlo felly, a hawdd genym gredu hyny, canys yr oedd felly i raddau hyd ddiwedd ei oes. Fel hyn y dywed am ei droedigaeth: "Yn mis Mawrth, 1831, yr oedd lluaws yn ymuno a'r eglwys. Yr oedd cyhoeddiad y Parch. William Jones (Rhyd-ddu neu Llanllyfni y pryd hyny), Cambria, Wisconsin, i fod yn Fourcrosses, a mawr oedd y dysgwyliad am dano; a phan y daeth, yr oedd y capel yn orlawn. Nid wyf yn cofio ei destyn, na pha le yr oedd; ond yr wyf yn cofio yn dda ddau sylw a wnaeth: yn

laf, Fod pob dyn wrth natur mewn cyflwr o golledigaeth;
2il, Fod gan y Duw mawr drefn trwy Grist a'i groes i gadw pob pechadur a gredo yn ei anwyl Fab.

Yr oedd Duw yn amlwg yn y lle; yr oedd y bobl yn neidio ac yn molianu Duw am ei ras a'i gariad tuag at fyd colledig, ac yr oedd pawb wedi dyfod i deimlo yn yr oedfa hono fod yn rhaid iddynt wrth y drefn neu fod byth yn golledig. Ymunodd lluaws mawr a'r eglwys ar ôl yr oedfa, a minau yn eu plith, a chefais dderbyniad caredig gan y brodyr, er fy mod yn greadur anwybodus iawn ar y pryd." Wedi byw yn yr ardaloedd uchod am rai blynyddau, symudodd Wm. R. Morris i ardaloedd Llanberis, a bu yn ffyddlon gydag achos crefydd yn ei holl gysylltiadau. Wedi byw yno am beth amser, priododd ag un o'r enw Elizabeth Jones, a bu y ddau yn cyd-fyw am oes faith, a bu iddynt wyth o blant.

Tua'r flwyddyn 1845, ymfudasant i'r wlad hon, gan sefydlu yn Utica, a chyflwynasant eu llythyrau eglwysig i eglwys y T. C. yn y dref, lle y buont yn aelodau ffyddlon. Yn 1859, symudasant i fyw i Nelson, Maddison County, ac yn 1879 symudasant yn ôl i Utica, lle y treuliodd weddill ei oes. Dyna, mor agos ag y gallwn gael allan, ei symudiadau. Mae llawer o ddynion wedi symud llai mewn oes, ac eraill lawer iawn mwy. Cafodd y brawd Morris lawer o groes-wyntoedd a phrofedigaethau gyda phethau y byd a'r bywyd hwn ar ei daith; gwelodd gladdu ei anwyl briod a dau o'i blant wedi tyfu i fynu i oedran, sef Dafydd ac Ellen. Ond fe gafodd lawer iawn o bleser a mwynhad gyda phethau crefydd. Gwelais ef lawer gwaith, er yn ddigon gwael ei iechyd, a'i lestr yn llawn o orfoleddyr iachawdwriaetb. Byddai yn oleu iawn arno ar adegau, a byddai ganddo adnod bob amser yn sail i'w brofiad.

Yr oedd y brawd Wiiliam R. Morris yn bur ffyddlon i ddilyn moddion gras; yr oedd feliy yn Nghymru ao yn Utica; ond wedi symnd i Nelson, Maddison County, y cafodd fwyaf o le i ddangos ei ffyddlondeb. Yr oedd yn byw tua deng milldir o'r capel, ond byddai yno bob amser yn y moddion, a byddai yno yn brydlon hefyd. Yno y dewiswyd ef yn flaenor, tua 25 mlynedd yn ôl, a gwasanaethodd ei swydd gyda ffyddlondeb tra y bu yno. Yn lled fuan wedi iddo symud i Utica i fyw, galwyd ef i'r un swydd gan yr eglwys, a gallaf ddwyn tystiolaeth na bu brawd erioed yn hawddach a mwy dymunol i gyd-weithio ag ef na'r brawd anwyl W. R. Morris.

Bu yn Utica luaws o ddynion cryfion yn flaenoriaid - dynion a wnaethant eu hol ar gymdeithas, dynion yn blaenori mewn gwirionedd - ond trwy farwolaethau a symudiadau, ac amgylchiadau, yr oeddynt wedi eu symud oll cyn yr adeg y galwyd y brawd Morris i'r swydd. Yr oeddwn fy hunan yn y swydd pan alwyd ef. Ond wedi ei gaei ef i gyd-ddwyn y baich, teimlwn fy mod wedi cael un y gallwn yn hawdd ei garu a'i barchu, a chawsom y fraint o gadw felly hyd y diwedd. Ni bu gair croes rhyngom yn ystod yr holl amser y buom yn cyd-weithio; a dyna yn sicr yw teìmlad holl swyddogion eglwys Utica - mai brawd hawdd ei garu a'i barchu oedd ef. Yr oedd yn hynod o barod i wneyd a allai gyda phob achos da; gwnaeth ei oreu felly tra y bu yma gyda ni, yn enwedig pan oeddym yn codi y capel newydd.

Nid oedd ein brawd wedi ei fendithio a moddion i roddi rhyw lawer ei hun, ac oblegid hyny byddai yn lled anmharod i siarad llawer yn y cyfeiriad hwnw; ond yr oedd er hyny mor bur ag un dyn. Byddwn yn teimlo yn fwy selog a ffyddiog gyda'r gwaith wedi cael ymgom a'r brawd. Byddai yn gweddio llawer dros y pregethwyr, ac nid oedd dim yn ei flino yn fwy na gwaith rhai pregethwyr yn rhedeg eu brodyr i lawr. Yr wyf yn cofio yn dda ei glywed yn dweyd am un o'r cyfryw, yr hwn sydd yn fyw, "Mae yn ddrwg genyf (meddai) i mi erioed weddio dros hwn-a-hwn." "Sut felly," meddwn inau. " Wel (ebai), mae yn rhedeg pawb i lawr; nid oes neb yn iawn ond efe ei hun." " Gadael iddo i daro goreu gallo, heb i neb drio gweddio drosto fyddai oreu," meddwn inau. Yna chwarddodd dros y tŷ.

Byddai yn gweddio llawer iawn dros yr eglwys, yn enwedig dros y bobl ieuainc. Yr oedd y bobl ieuainc yn meddwl yn uchel o hono, a buont yn ffyddlon i fyned i'w dŷ i gadw cyfarfodydd gweddio yn ystod ei waeledd. Yr oedd ein brawd yn wrandawr da; ond ar adegau gwelais ef fel pe wedi digio a suro wrth bawb a phob peth, a phan ofynid iddo y rheswm am hyny, dywedai, "Wel, wn i ddim, frawd, beth oedd y dyn yna yn geisio ddweyd." Nid oedd yn barod llyncu pob peth. Dywedodd unwaith, ar ôl gwrandaw pregeth ryfedd gan ryw frawd, "Mae hi yn ddymunol clywed Dr. Roberts yn pregethu - mae pob bwyd wedi ei goginio yn dda ganddo ef, fel nad oes eisiau dim ond bwyta." Ni fu dyn erioed yn fwy ffyddlon i weinidogion cymwys y Testament Newydd na William R. Morris. Yr oedd felly i Dr. Roberts, ac hefyd i'r Parch. Robert Williams, M.A., er na chafodd y fraint o fwynhau ond yehydig ar ei weinidogaeth. Yr oedd wedi ei gaethiwo i'w dŷ, a bu felly am amser maith, ond cafodd y fraint i fod yn hollol dawel trwy yr holl amser. Byddai yn cael poenau mawrion ar adegau, ond bob amser yn hollol dawel, ac yn gallu mwynhau y dyddanwch sydd yn Nghrist Iesu.

Byddwn yn galw i'w weled yn aml, a byddai bob amser mor ddedwydd o ran ei brofiad crefyddol fel y byddai yn bleser cael awr o'i gymdeithas. Gelwais i'w weled gyda'r cyfaill William Hughes, y Sabboth diweddaf y bu fyw; yr oedd yn teimlo yn lled dda, ac wedi cael codiad ysbryd - yr oedd lluaws o'r gweinidogion wedi galw i'w weled yn adeg y Gymanfa Gyffredinol; yr oedd wedi cael hwyl neillduol gyda y Parchn. John Jones, Emporia, Dr. Howell, a Griffith Ellis, M. A. Yr oedd mor siriol ag arfer y Sabboth hwnw pan oeddym yn ffarwelio ag e£, ac nid oeddym ninau yn meddwl mai y tro hwnw oedd y diweddaf i ni gael golwg ar yr hen frawd yn fyw; ond felly fu, canys y dydd Mawrth canlynol ehedodd ei enaid at Dduw yr hwn a'i rhoes, gan adael chwech o blant i alaru ar ei ôl, sef dau o feibion a phedair o ferched. Bu ei blant yn ofalus iawn o hono, yn enwedig Mr. David W. Evans a Mrs. Albert Arnest. Ni fu gan neb erioed blant mwy caredig, ac yr oedd ein brawd yn teimlo hyny; byddai bob amser yn canmol mor dda oedd ei blant wrtho.

Byddai yn dda ìawn i ni sydd wedi ein gadael ar ôl feddwl mwy am ein tadau a'n brodyr sydd wedi myned o'n blaen, ac ymdrechu bod yn debyg iddynt yn eu nodweddion rhagorol. Bu Mr. Morris yn ffyddlon i'r Cyfarfod Dosbarth a'r Gymanfa hyd y gallodd; ac wedi iddo fethu, byddwn yn myned i'w weled ar ôl pob cyfarfod o'r fath er rhoddi iddo hanes ei frodyr, a byddai ei lygaid yn lloni wrth glywed yr hanes fel y byddai y brodyr yn cario y gwaith da yn mlaen. Dywedai weithiau, "Rhyw bobl ryfedd iawn ydyw y Methodistiaid; mae yn dda gan fy nghalon am danynt." Yr oedd yn hoff iawn o'r Cyfaill. Byddai yn methu deall pa fodd yr oedd aelodau y Methodistiaid yn gallu byw heb y Cyfaill; a phan ddywedai Dr. Roberts wrtho fod rhai blaenoriaid heb ei dderbyn, " Wel wfft iddynt hwy (meddai), mewn pa beth y maent yn blaenori?"

Nid wyf yn meddwl nad oedd gan y brawd hwn ei wendidau, canys Williâm R. Morris "oedd ddyn," ac y mae i bob dyn ei wendidau, ond nid wyf fi yn myned i chwilio am ei wendidau ef.

"Mae'r brawd wedi gorphen ei daith,
Ei lafur a'i waith yr un wedd."
T. SOLOMON GRIFFITHS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1893.


MR. WILLIAM R. MORRIS, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Medi 6ed, 1892, yn 74 mlwydd, 5 mis oed, William P. Morris. 33 Hart Street, Utica, New York, ar ôl bod yn gystuddiol am flynyddau.

Ganwyd yr ymadawedig yn ardal Clwtybont, Sir Gaernarfon.

Yn 1845 ymfudodd i America, a bu yn byw yn Utica am rai blynyddau. Symudodd i Nelson, New York, a bu yn amaethu yno hyd ryw dair blynedd ar ddeg yn ôl, pryd y dychwelodd i Utica.

Tua haner can' mlynedd yn ôl priododd un Elizabeth Jones, yr hon fu farw saith mlynedd yn ôl. Mae y plant canlynol wedi eu gadael: Griffith Morris, Peru, Indiana; Mrs. W. Bartlett, New Haven, New York; Miss. Margaret Morris, Spencerport, New York; Richard W. Morris, Peterboro, New York; Mrs. David W. Evans a Mrs. Albert Arnst, Utica.

Fel gwleidyddwr yr oedd yn Werinwr selog; ac fel Cristion yn weithgar a ffyddlon. Efe gychwynodd yr achos Methodistaidd yn Nelson, a bu yn ddiacon yno ac yn Moriah Utica, am lawer o flynyddau.

Am 4 o'r gloch prydnawn dydd Iau, cynaliwyd gwasanaeth angladdol gan y Parch. Dr. Gwesyn Jones, a chymerwyd y corff i'w gladdu yn Nelson bore dranoeth, y Parch. Benjamin D. Davies yn gweinyddu.

Y Drych ~ Medi 15fed 1892.


MR. WILLIAM R. MORRIS, NELSON, MADISON COUNTY, NEW YORK.

William R. Morris died yesterday at the home of his daughter, Mrs. Albert Arnst, 18 Hart street. He had been in poor health the last few years.

Mr. Morris was born in Canarvonshire, North Wales, 74 years ago. He married and in 1845 came to America, settling at once in this city, where he lived until 1855, when he took up his residence south of Oneida. Thirteen years ago he returned to Utica and has since resided here. He was a deacon in Moriah Church, and was true and constant in his Christian living. The work of the young people enlisted his full sympathy and he was often connected regarding their work.

His youth never ended until his life went out, and rather than have him absent from their proceedings the younger workers in the church always sought his attendance. In politics he was a staunch Republican.

He leaves six children, Griffith Morris, Peru, Indiana; Mrs. William Bartlett, New Haven, New York; Miss Margaret Morris, Spencerport, New York; Mrs. David W. Evans, Utica; Richard Morris, Peterboro, New York, and Mrs. Arnst, of this city. He also has three brothers in this country and two sisters in Wales.

The funeral arrangements have not been made, but interment will be at Nelson, Madison county.

Utica Daily Press, Wednesday Morning, Sept. 7, 1892.