MRS. MARY OWEN. STEUBEN VALLEY, NEW YORK.
Chwefror 24ain, 1892, yn Steuben Valley, New York, Mrs. Mary Owen, yn 84 mlwydd oed. Ymfudodd y teuiu i'r wlad hon o blwyf Aberdaron, Sir Gaernarfon, yn 1834, a bu hi a'i phriod E. Griffith - yn byw mewn tŷ ar Ffarm y Cobyn, yn Steuben, am rai blynyddau; yna yn 1810 symudasant i Rochester, New York. Ar ôl dwy flynedd daethant i Trenton, lle yn 1847 y bu ei gŵr farw.Ar ôl hyn ymbriododd ag Owen Owens, a gadawyd hi yn weddw drachefn, a symudodd i Steuben i fyw gyda ei mab, W. E. Griffith.
Claddwyd hi ar y 27ain, a chyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol yn y tŷ gan y Parch. E. G. Williams. Remsen, a chor eglwys y Nant. Daearwyd hi yn mynwent bryferth Steuben Valley. Gadawodd dri o blant ac un chwaer, Mrs. William Jones, Trenton, i alaru eu colled am dani. Perchid hi yn fawr gan ei pherthynasau a chan ei chydnabod yn gyffredinol, gan ei bod wedi bod o wasanaeth dirfawr i lawer yn ei hoes, er iddi fod yn orweddiog am lawer o flynyddau.
J. R. J.