MR. THOMAS P. OWEN. MOUNT PLEASANT, RACINE, WISCONSIN.
Awst 12fed, 1892, o'r parlys, Thomas P. Owen, Mount Pleasant, Racine, Wisconsin.Ganwyd ef yn 1820, yn Bryneglwys, Llanegryn. Sir Felrionydd, Gogledd Cymru; ond gan i'r teulu symud oddiyno i le o'r enw Trefaes, fel Thomas Owen, Trefaes, yr adwaenid ef oreu yn ardaloedd Llanegryn a Llwyngwril.
Yn fuan ar ôl priodi ymfudodd i'r wlad hon, sef tua'r flwyddyn 1850, a gwnaeth ei gartref yn Mount Pleasant, ger Racine, lle y treuliodd weddill ei ddyddiau. Dyn tawel a dymunol iawn ydoedd, ac yn un a berchld yn fawr gan ei gymydogion. Yr oedd yn un o'r dynlon mwyaf moesol yn yr ardal, ac wedi bod yn weithiwr caled ar hyd ei oes.
Bu farw yn dra sydyn, ac y mae ei ddau fab a'i ddwy ferch mewn galar ar ei ôl. Boed iddynt ymofyn am ddyddanwch yr iachawdwriaeth.
Cafodd gladdedigaeth barchus Awst 16eg, pryd y gwasananthwyd gan Evans, Racine, yn Gymraeg, a Jackson (B.), Mount Pleasant, yn Saesneg.