MRS. MARY OWENS. BLAENYCAE, RANDOLPH, WISCONSIN.

Mehefin 8fed, 1892, yn ardal Blaenycae, ger Randolph, Wisconsin, Mary Owens, yn 73 mlwydd oed.

Daeth i'r wlad hon gyda'i thad a'i mam tua 1846, o bentref Ebenezer, Llanddeiniolen, sir Gaernarlon, Gogledd Cymru, a chartrefodd yn Blaenycae hyd ddydd ei marwolaeth.

Mae iddi chwaer yn agos i chwarelau Llanberis o'r enw Sarah Parry, a chwaer arall yn Slatington, Pennsylvania, o'r enw Esther Williams, yn nghyd a dau frawd a dwy chwaer yn y gymydogaeth hon.

Yr oedd yn ddynes ddarbodus ac ymdrechgar, fel yr oedd wedi dod i feddiant o ffarm dda yn werth amryw filoedd o ddoleri, ac wedi darpar llawer at yr amgylchiad o farw. Ail tranoeth hebryngwyd ei chorff i gladdfa Engedi, lle y gweinyddwyd gan y Parch. John R. Daniel a D. R. Jones. Bu farw o'r parlys ar ol tua 21 oriau o gystudd.

Y Drych ~ Gorphenaf 14eg 1892.