MR. ROBERT OWENS. 43 WASHINGTON STREET, NEW YORK.
Tachwedd 2ail, 1892, yn ei breswylfod, 43 Washington Street, New York, ar ôl hir waeledd, Robert Owens, teiliwr, tad Mrs. Hugh W. Roberts, yn 78 mlwydd, 2 fis a 24 diwrnod oed; a chladdwyd ef y dydd Gwener canlynol, y Parch. Thomas J. Brown, D. D., yn gweinyddu. Genedigol ydoedd o Ddolgellau.Dysgodd ei grefft yn Amlwch, a bu yn gweithio yn Sir Fflint, Ysgotland a Lerpwl, cyn ymfudo i'r wlad hon tua 40 mlynedd yn ôl. Yn Lerpwl y priododd. Yr oedd yn ddyn tawel, moesol a chrefyddol, ac yn ddarllenwr mawr.