MISS ANN W. PARRY. WEST PAWLET, VERMONT.

Mawrth 26ain, 1892, yn West Pawlet, Vermont, yn 48 mlwydd oed, wedl cael cystudd trwm a chaled, Ann W. Parry.

Genedigol oedd o ardal Ffestiniog, Gogledd Cymru - merch John ac Elizabeth Parry (John Parry y Post).

Ymfudodd i ardal Fair Haven, Vermont, yn 1872. Y mae iddi un chwaer yn Spring Brook. Lackawanna County, Pennsylvania, ac un brawd a dwy chwaer yn yr Hen Wlad. Yr oedd hetyd yn chwaer i'r diweddar Barch. David Parry (Dewi Moelwyn), gweinidog eglwys Annibynol Providence, Pennsylvania.

Yr oedd yn aelod ffyddlon a gweithgar o eglwys y T. C. yn y lle hwn. Claddwyd hi yn Poultney, y Parch. Edward Roberts yn gweinyddu.
J. CYNFRIG JONES.

Y Drych ~ Mai 26ain 1892.