MRS. CATHERINE ROBERTS. SOUTH POULTNEY, VERMONT.
Ionawr 15fed, 1892, yn South Poultney, Vermont, yn 76 mlwydd oed, Mrs Catherine Roberts, gweddw y diweddar John Roberts, Dolmeredydd, Arfon, Gogledd Cymru.Daethant i'r wlad hon o Llanddeiniolen, Arfon, yn 1868. Yr oeddynt yn mysg sefydlwyr Cvmieig boreuaf yr ardal hon. Buont yn cadw Boarding House yma am flynyddoedd, ac wrth yr enw "Mrs. Roberts y Boarding" adwaenir hi gan luaws mawr sydd yn wasgaredig drwy y wlad o fechgyn y chwareli. Bu yn weddw am ugain mlynedd, ond cafodd eu treulio mewn llawnder, a nifer o'i phlant wedi sefydlu o'i hamgylch yn glyd eu hamgylchiadau.
Bu iddynt naw o blant, un wedi marw. Eu meibion ydynt Mri. Robert Roberts, Malvern, Ohio, William Roberts, engineer, a T. J. Roberts, goruchwyliwr gweithfeydd, Mri. Griffith a Nathaniel yn y lle hwn, John J. Roberts, Monson, Maine, Ellis Roberts, East Palestine, Ohio; a'r merched ydynt Mrs. William Prichard, Placeville, California, Mrs. Cad. W. Parry, South Poultney, a Mrs. Shaw, East Palestine, Ohio. Cartrefai Mrs. Roberts am rai misoedd cyn ei marwolaeth gyda ei merch Mrs. Parry.
Bu farw yn sydyn iawn; tra yn cyfeirio at ddrws ei bedroom yn ei hiechyd arferol, agorwyd dor y byd arall iddi. Yr oedd ŵyr byohan iddi oddeutu tair blwydd oed yn myned i fyny i'r llolft gyda hi, ac yn mhen ychydig fynydau daeth y bychan i lawr, gan ddweyd, "Nain cysgu, mam." Cymerodd Mrs. Parry yr awgrym, a rhedodd i fyny, i gael y braw o weled ei hanwyl fam wedi huno yn yr angeu mor ebrwydd.
Yr oedd yn aelod ffyddlon o eglwys South Poultney, ac yn holl gan ei chymydogion fel cymeriad unplug a hollol ddirodres. Darllenodd lawer ar y Beibl, a thystiai y byddai yn cael llawer o fwynhad ynddo. Darllenodd ef drosodd dair gwaith yn ystod ei bywyd. Cyfrifid hi yn engraifft deg o'r ychydig sydd yn meddwl ddwywaith cyn llefaru unwaith, a gellid dibynu y byddai ei ie hi yn ie, a'i nage yn nage.
Cafodd angladd lluosog iawn ar yr 18fed. Cynaliwyd y gwasanaeth yn addoldy South Poultney, a dygwyd y gweddillion i gladdfa Poultney. Gwasanaethwyd gan yr ysgrifenydd.
JOHN W. MORRIS.