MRS. ESTHER ROBERTS. DELTA, YORK COUNTY, PENNSYLVANIA.

Awst 7fed, 1892, yn Delta, York County, Pennsylvania yn 28ain mlwydd oed, Mrs. Esther Roberts. Dyoddefodd gystudd maith a phoenus yn ddirwgnach.

Gadawodd briod mewn cystudd, a dau fab bychan, brawd a chwaer yn y wlad hon a dwy chwaer yn yr Hen Wlad.

Genedigol ydoedd o Porthmadog, Gogledd Cymru. Daeth i'r wlad hon tua chwe' blynedd yn ôl, a hyn fu tymor ei bywyd priodasol - byr o ddyddiau a llawn o helbul.

Yr oodd yn cael ei hadnabod gan ei chymydiagion fel dynes dawel, ddystaw a diabsen, ac fel priod ffyddlon a gofalus a mam dyner.

Yr oedd ynddi ddymuniad cryf am gael byw i fagu ei phlant bychain; ond nid hyn oedd ewyllys yr Arglwydd. Gobeithio er hyny y gofelir yn briodol am ei rhai anwyl.

Claddwyd ei gweddillion yn mynwent Slateville, Awst 9fed. Gweinyddwyd yn y capel ac ar lan y bedd gan y Parchn. H. F. Williams, J. Cadwaladr a H. O. Griffiths, o Wisconsin.

Y Drych Awst 25ain 1892.