MR. GRIFFITH ROBERTS. BELFAST, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.
Medi 25ain, 1892, yn 55 mlwydd oed, Griffith Roberts, Belfast, Northampton County, Pennsylvania, ar ôl dihoeni am dros ddeunaw mis, gan deimlo y nerth yn darfod, ac adferiad yn myned yn fwy anobeithiol pob wythnos.Mab ydoedd i'r diweddar Richard Roberts, Maes-y-neuadd, plwyf Llanllyfni, Gogledd Cymru. Bu yn y wlad hon am bum mlynedd ar hugain ac ymdrechodd yn galed am fywoliaeth gysurus. Gwariodd arian mewn chwareli, a phrynodd fferm yn Brookfield. Missouri, mewn gobaith llwyddo; ond nid oedd y llwydd dysgwyliedlg yn dyfod. Daliwyd ef gan afiechyd tra yr oedd pedwar o'i chwe phlentyn heb eu magu, a thra yr oedd crefydd, o herwydd anfanteision, wedi colli ei gafael arno; ond ceisiodd yr Arglwydd a'i holl egni yn ei gystudd.
Derbyniwyd ef yn aelod gyda'r T. C. yn Bangor, Pennsylvania, yn Mehefin, 1891, a chyfranwyd iddo o Swper yr Arglwydd amryw weithiau ar ei glaf wely.
Mae y teulu yn yr Hen Wlad yn hynod am eu hoffder o'u gilydd, ac amlygwyd hyny yn nodedig yn y gofal roddwyd iddo gan ei frawd Richard Roberts, contractor, Utica New York. Nid oedd na llafur na chostau yn ormod ganddo ef a'i briod tuag at leddfu ei boen a'i wneyd yn ddibryder a chysurus. Mae un o ferched bychain yr ymadawedig yn cartrefu gyda hwy, lle y caiff bob gofal ac addysg ag y medr tynerwch a chyfoeth ei roddi.
Bydded nodded y Bugall da dros y weddw a'i phlant yn eu hamddifadrwydd. Dydd Iau, Medi 29ain, claddwyd ef yn mynwent Lutheriaid Belfast yn ngwydd tyrfa luosog.
Gweinyddwyd gan weinidog y Lutheriaid a'r Parch, E. J. Roberts (W.), Bangor.
JOHN HAMMOND.