MR. JOHN ROBERTS. SOUTH DELTA, PENNSYLVANIA.

Rhagfyr 5ed, 1892, yn South Delta, Pennsylvania, o'r darfodedigaeth, John Roberts.

Daeth i'r wlad hon tua chwe blynedd yn ôl o Ffestiniog. Bu ei dymor yma yn gyfnod o aml a blin gystuddiau.

Ychydig fisoedd yn ôl claddodd ei briod, ac yr oedd ef yn rhwym gan gystudd yn ei ystafell y pryd hwnw, ac nid hir y bu cyn gorphen ei waith arno yntau.

Gadawodd ar ei ôl ddau o blant, mam a dau frawd a chwaer. Bydded yr Arglwydd yn llon'd ei addewid i'r anwyliaid bychain yn eu hamddifadrwydd. Hebryngwyd ei weddillion i fynwent Slateville, ar y 6ed. Gweinyddwyd y gwasanaeth crefyddol yn Rehoboth gan y Parch. H. Foulkes Williams yn Saesneg, a'r Parch. J. Cadwaladr yn Gymraeg. Gwasanaethodd cymdeithas y Red Men ar lan y bedd, o'r hon yr oedd yn aelod.

Y Drych Rhagfyr 22ain 1892.