MR. ROBERT ROBERTS. DELTA, WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.
Ionawr 2ail, 1892, yn Delta, ger West Bangor, Pennsylvania, yn 52 mlwydd oed, Robert Roberts, Gof, ar ôl ychydig ddyddiau o gystudd poenus, yr hwn a ddechreuodd yn y la grippe, ond a ddiweddodd yn pleuro-pneumonia.Ganwyd Mr. Roberts, Awst 3ydd, 1840, ym Mlaenau Ffestiniog, Gogledd Cymru. Yr ydoedd yn fab i'r diweddar John Roberts, Gof, a'i briod, gynt. Daeth y teulu i'r wlad hon yn Mehefin, 1849, ac ymsefydlasant am dymor byr yn Cincinnati, Ohio, lle trigai brawd i Mrs. Roberts ar y pryd. Symudasant y gwanwyn canlynol i ardal West Bangor, gan wneyd eu cartref parhaus yma. Mae y rhieni hyn wedi eu cludo i dy eu hir gartref er's llawer blwyddyn, ac wele eu hynaws fab Robert wedi ei ddanfon ar eu holau er galar a cholled i lawer. Dysgasai ei grefft ofyddol gyda'i dad, yr hwn a ystyrid yn ei ddydd yn weithiwr cywrain a rhagorol. Ond buan yr aethai efe, y mab, yn mhell tu draw i'w dad yn ei gelfyddyd. Bu ef ar adegau yn gweithio yn mhrif weithfeydd peirianol Pittsburg, Allentown, New York, Philadelphia, a.y.; ond er's amryw flynyddau yn awr yr ydoedd wedi cartrefu yn ei hen ardal, ac yn cymeryd gofal peirianau a gwaith gof un o'n prif chwarelau.
Yn 1862 ymbriododd â Miss Elinor Jones, Delta, ac y mae iddynt un ferch yn byw yn Delta, sef Mrs. William Morris, a mab mabwysiedig, Johnnie Roberts.
Yr oedd Mr. Roberts yn un o'r dinasyddion Cymreig mwyaf amlwg a defnyddiol yn y lle hwn. Yr oedd yn perthyn i'r graddau uchaf o'r Odd Fellows ac i urdd y Red Men. Ond uwchlaw y cwbl gellir dweyd ei fod yn Gristion, ac yn aelod cyson a gwir ddefnyddiol o eglwys Gynulleidfaol Bethesda, West Bangor. Nid oedd efe un amser yn gadael i'w gysylltiadau a'r cymdeithasau cyfeillgar uchod, er mor amlwg ydoedd ynddynt, i'w rwystro mewn defnyddioldeb crefyddol ac eglwysig, eithr yr oedd wedi gosod hyn yn mlaenaf o bob peth arall.
Yr oedd yn naturiol yn ddyn o alluoedd meddyliol treddegar a bywiog, yn ddarllenwr myfyrgar, yn enwedig mewn duwinyddiaeth a moesddysg, sef yn ddigon llydan ei olygiadau i gymeryd y dyddordeb mwyaf yn nghwestiynau mawr ei oes ei bod yn ffyddlon i'r ysgol Sabbothol ac i'r weinidogaeth. Yr oedd yn ddyn o argyhoeddiad dwfn, yn selog a difrifol a di-droi-yn-ol mewn egwyddorion pwysig; yn haelionus at bob achosion teilwng, ac yn garedig a chymwynasgar i bawb a ddeuai ato mewn caledi. Teimlir gwir golled ar ei ôl yn mhob cylch, ac yn enwedig yn ei eglwys.
Yr oedd y nifer mawr o'i gymydogion ac eraill a ddaethant i hebrwng ei weddillion marwol i'r bedd, yn dangos yn amlwg pa mor ucbel y safai ei gymeriad yn ngolwg y rhai a'i hadwaenent. Anfynych, os erioed, y gwelsom gynhebrwng mor lluosog. Daethai ei frawd a i chwaer, Mr. John Roberts a Mrs. Williams, Bangor, Swydd Northampton, i'w angladd, yn nghyda ei nith, Miss Mary Ellen Roberts, Philadelphia.
Cymerodd yr angladd le prydnawn y dydd Mawrth canlynol. Dygwyd y gwasanaeth crefyddol yn mlaen yn y tŷ ac yn addoldy Slateville gan yr ysgrifenydd, yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn. Williams, Orram a Smith; ac ar lan y bedd gweinyddwyd gan yr Odd Fellows a'r Red Men, yn ôl eu defodau neillduol.
Nerthed Duw ei briod alarus.
JOHN CADWALADER.