MR. ROBERT L. ROBERTS. WEST PAWLET, VERMONT.

Hydref 8fed, 1892, yn West Pawlet, Vermont. Robert L. Roberts - "Bob Bach yr Hen Of," fel yr adnabyddid ef gan ei hen gydnabyddion. Yr oedd yn frodor o Ffestiniog, ac yn mron cyraedd ei 35 mlwydd oed.

Nis gwyddom enw ei dad - yr hwn oedd wedi ei ragflaenu i'r byd arall er's llawer o flwyddi. Ei fam yw Laura Roberta, Hafod Ruffydd, 92 Manod Road, Ffestiniog, ar hyn o bryd.

Croesodd "Bob" y Werydd oddeutu deng mlynedd yn ôl, a bu yn dylyn ei alwedigaeth fel chwarelwr am yspaid o amser yn Pennsylvania a Maine, ond yn Vermont y treuliodd fwyaf o'i amser.

Ymosodwyd arno gyntaf oddeutu blwyddyn yn ôl, gan hen elyn i lechyd plant dynion - y darfodedigaeth; ac yn ei afaelion ef bu yn orweddog am lawer o fisoedd, ie, nes deuodd llaw marwolaeth i ostwng y llen rhyngddo a byd o amser. Yr oedd "Bob" yn un a edmygid yn fawr gan ei gydweithwyr, a phawb o'i gyfeillion. Meddai amgyffrediad cryf, deall eang a rheswm cadarn; a byddai bob amser yn ffodus iawn pan mewn dadl ag un o'i gydweithwyr ar "bwnc y dydd." Meddai ysbryd bywiog, yn tueddu i fod yn chwareus; ac am ei galon - un lydan-agored oedd - megys eiddo pob gwir ddyngarwr. Hefyd, nid oedd ganddo ond un gwyneb, ac yr oedd hwnw yn y ffrynt, yn gwisgo gwên mor naturiol bur, fel nas gallai neb ei chamgymeryd am ddim arall.

Yr oedd yn Gymro eiddgar, a meddai gydymdeimlad angerddol a'i hen genedl sydd yn ceisio ymryddhau o lyffetheiriau trais a gorthrwm; ac er fod ei hoffder o'i wlad fabwysiedig yn gynyddol, nid oedd ei gariad at Wyllt Walia fymryn yn llai. Byddai yn llawenychu yn nyrchafiad pob Cymro, ond yn casau pob ffurf o waseiddiwch — rhywbeth ydyw hwn oedd wedi gwenwyno gwaed nifer mawr o chwawlwyr Ffestiniog pan ooddem ni yno. Er nad oedd yr ymadawedig yn grefyddwr proffesedig, byddai ar bob adeg yn ceisio rhodio canol y ffordd, gan hoffi y pur a'r chwaethus, cydnabod a pharchu moes a rhinweddau lle bynag y byddent.

Yr oedd yn meddu ar brif gymwysderau y bobl a elwir genym ni yn Gristionogion; ac yr oedd ei brofiadau olaf pan yn llithro i rydiau yr afon, yn eglur ddangos y byddai yn enillydd tragwyddol wrth newid sefyllfa.

Bu Walter Davies a'i briod yn garedlg iawn wrtho; nis gallai neb ymddwyn yn well at letywr nag y gwnaethant hwy. Hefyd, gwylid ef yn ddyfal nes iddo anadlu ei olaf gan Miss Mary V. Roberts, Granville — un a fuasal yn wraig iddo oni bai am oruchwyliaeth angeu.

Claddwyd ef y dydd Mercher dylynol i'w farwolaoth gan dyrfa barchus, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Edward Roberts, Middle Granville.
DEWI GLAN DULAS.

Y Drych Hydref 20fed 1892.