MR. ROBERT O. ROBERTS. COLUMBUS, OHIO.

Hydref 22ain, 1892, yn Columbus, Ohio, or dropsy of the heart, yn 64 mlwydd oed, Robert O. Roberts, gynt o Ffestiniog, Gogledd Cymru.

Ymfudodd i'r wlad hon tua 38 o flynyddau yn ôl ac ymsefydlodd yn Fair Haven, Vermont, yn mysg y chwarelau, lle y bu am flynyddau.

Yn 1864 ymunodd mewn priodas â Margaret C. Jones, merch y Parch. G. Jones, Columbus, Ohio. Yn fuan ar ôl priodi prynodd dyddyn yn agos i Cambria, Wisconsin, ac yno y buont byw byd o fewn llai na thair biynedd yn ôl, pryd y symudasant i Columbus, Ohio, lle y terfynodd ei oes.

Gadawodd briod, un mab a thair merch i alaru ar ei ôl. Aed a'i weddillion i Cambria i'w claddu.

Cadwyd gwasanaeth angladdol yn y tŷ y noswaith cyn cychwyn, y Parch, H P. Howell, D. D., yn gwasanaethu.

Y Drych Tachwedd 3ydd 1892.