MR. ROWLAND R. ROBERTS. SLATINGTON, PENNSYLVANIA.

Mehefin 26ain, 1892, yn Slatington. Pennsylvania, yn 23 mlwydd oed, Rowland R. Roberts, mab Robert a Mary R. Roberts. Bron y Foel, Llanddeiniolen. Arfon, Gogledd Cymru.

Ymfudodd i'r wlad hon dair blynedd i Chwefror diweddaf, gan wneyd ei gartref gyda'i ewythr, Evan Roberts, Franklin. Yr oedd yn fachgen tawel, hynaws a charedig, ac yn un a fawr berchid gan ei holl gydnabod.

Dydd Mawrth ymgasglodd tyrfa fawr i'w hebrwng i gladdfa gyhoeddus y dref. Blaenorid yr orymdalth gan yr Arvonic Brass Band, yna Cyfrinfa y Knights of Pythias, o'r rhai yr oedd yn aelod. Chwareuwyd gan y aelodau cyn cychwyn oddiwrth y tŷ, ar hyd Fourth Street, pan yn cymeryd y corn i mewn ac allan o'r capel, ac ar lan y bedd yn nodedlg o doddedig.

Anerchwyd y dorf hefyd yn y capel ac ar lan y bedd gan y Parchn. W. T. Williams a Charles Jones, M. A., ac offrymodd Mrs. Captain Jackson, o Fyddin yr Iachawdwriaeth, weddi ar lan y bedd yn effeithiol iawn. Yr oedd angladd ein cyfalll yn un o'r rhal lluosocaf, trefnusaf a pharchusaf a welsom erioed yn ein tref. Ar yr arch, yr hwn oedd yn un o'r rhai prydferthaf, yr oedd amryw o wreaths o flodau fel mynegiant o barch perthynasau a chyfeillion iddo. Er ei fod yn mhell o'i wlad enedigol, ac oddiwrth ei rieni anwyl, cafodd gladdedigaeth fel boneddwr; ac fe fydd hyny yn ychydig o gysur i'w rieni a'i berthynasau trallodus yn Nghymru.

Dangosodd bawb gymaint o barch ag oedd boslbl, ac yn arbenig ei berthynasau yma, y rhai a roesant bob peth yn y modd goreu.
TUDWEL.

Y Drych ~ Gorphenaf 14eg 1892.