MRS. ELIZABETH ROWLANDS. JERUSALEM, WELSH PRAIRIE, WISCONSIN.
Medi 17eg, 1892, yn ardal Jerusalem, Welsh Prairie, Wisconsin, Mrs. Elizabeth Bowlands, yn 51 mlwydd oed. Hoffus briod Humphrey J. Rowlands, Pen Gwrhyd, ydoedd, yr hwn gydag un mab gobeithiol sydd yn alarus iawn. Ei hafiechyd ydoedd y dysentery; ni bu byw ond ychydig dros wythnos wedi iddi gael ei tharo gan y clefyd angeuol. Cafodd bob cymorth gan y meddygon, ond ofer fu eu hymdrechion; bu farw yn dawel yn ei chwsg.Yr oedd Mrs. Rowlands wedi cael dysgeidiaeth dda, ac wedi bod yn athrawes ysgol ddyddiol am lawer o flynyddoedd. Safai yn ffrynt cymdeithas, gan ei bod yn diwyllio ei meddwl yn barhaus. Nid yn hawdd y canfyddir ei gwell am ddarllen, ac yr oedd yn darllen llawer iawn o lyfrau Cymraeg a Saesneg, ac yn trysori llawer yn ei chof. Hefyd yr oedd yn llenyddes pur dda; a byddai yn dra hoff o geisio barddoni. Gwelsom draethodau sylweddol o'i heiddo, a phenillion tyner "I'r Alltud." Athrawes dda ydoedd yn yr Ysgol Sul, ac yr oedd y dosbarth yn dra hoff o honi. a hithau yn ymbleseru yn ei dysgyblion, gan gyfranu addysg iddynt. Yr oedd hetyd yn flyddlon gyda phob moddion o ras os byddai ei hiechyd yn caniatau.
Cafodd ei dwyn i fyny yn grefyddol o'i mebyd gan ei rhieni Mr. a Mrs. Jones, Ty'n y Coed, y rhai a ddawthant i'r wlad hon o Abermaw, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Yr oedd Mrs. Rowlands o ymddangosiad ac o rodiad boneddigaidd, yn barchus o bawb ac yn ddiabsen. Da fod ein hoffus gyfaill H. Rowlands a'i fab yn gwybod i ba le i droi yn eu profedigaeth. Eu noddfa yw Duw.
Cafodd Mrs. Rowlands angladd mawr. Daeth amryw o'i hen gymydogion o ardaloedd Blaenycae a Proscairon yno, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. R. H. Evans, Cambria, John R. Jones, Columbus, a John B. Daniel, Blaenycae.
Cludwyr y corff oeddynt - Morris D. Owens, Griffith M. Roberts. Thomas Closs, Henry Jones, William. W. Rowlands, a Hugh W. Hughes.
W. W. HUGHES.