MRS. GWEN ROWLANDS. WELSH PRAIRIE, WISCONSIN.
Medi 22ain, 1892, yn Welsh Prairie, Wisconsin., Mrs. Gwen Rowlands, priod yr Anrh. John R. Rowlands, Caledfryn, ar ôl dyoddef cystudd trwm am ychydig gydag wythnos. Tybiwyd ar ddechreu y cystudd ei bod wedi cael ergyd o'r parlys mud; ond yn ddiweddarach teimlai y meddygon ansicrwydd am natur angeuol yr afiechyd.Prydnawn y 23ain ymgasglodd torf enfawr o berthynasau a chyfeillion i hebrwng ei gweddillion i'w gorphwysfa olaf yn mynwent Cambria; lle yr oedd ei thad, ei mam, a phedwar o frodyr, heb son am gylch mawr o berthynasau pellach wedi ei blaenori.
Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Parchn. R. H. Evans. Cambria. Owen O. Jones, Ixonia, a John R. Jones, Columbus, y ddau olaf wedi arfer bod yn mysg ei chymydogion agosaf am y rhan fwyaf o'u hoes. Gadawodd i alaru ar ei hol briod hiraethus a thri o blant, set un mab a dwy ferch, mewn chwithdod ac amddifadrwydd; heb son am gylch eang o berthynasau pellach oedd oll yn ei hanrhydeddu â chariad pur ac ymddiried helaeth.
Ganwyd hi yn Dolwyddelen, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, Chwefror 19eg, 1831. Merch ydoedd i David Owen a Jane ei wraig. Yr oedd ei thad yn gefnder i'r Parch. John Jones, Talsarn. a'i frodyr enwog. Bu yntau yn ddiacon gwerthfawr gyda yr Annibynwyr yn Nghymru, a ohyda y T. C. ar Welsh Prairie weddi11 ei oes yn America.
Efe oedd y cyntaf a gladdwyd yn mynwent bresenol Cambria, ac er fod dros chwarter canrif wedi treulio er y dydd hwnw y mae ei enw yn fyw a'i goffadwriaeth yn anwyl mewn canoedd o galonau eto.
Daeth Mrs. Rowlands i America gyda ei rhieni yn 1847, gan ymsefydlu ar Welsh Prairie, yn 1853 seliwyd y cyfamod priodasol rhyngddi a'i phriod. sydd heddyw yn weddw ac unig; a bu yr undeb yn ffynonell manteision a dedwyddwch o'r ddeutu.
O ran ei chymeriad yr oedd iddi safle uchel yn syniad pawb fel gwraig dawel, ddiabsen a charedig, oedd fel y dur yn ei phurdeb a'i ffyddlondeb; un nad oedd eisieu ond ei badnabod i'w charu ac ymddiriodd ynddl. Ymddangosai wrth ei bodd pan yn cymeryd poen a thrafferth i wneyd pawb o'i chylch yn gysurus, fel pe buasai ei dedwyddwoh penaf yn nedwyddwch eraill. Yn ei dystawrwydd tawel a diabsen yr oedd yn esiampl deilwng i luaws ei hefelychu. Erys ei ohoffadwriaeth yn fyw ac anwyl yn nghalonau canoedd o gyfeillion a pherthynasau, ar ôl i leni marwolaeth guddio ei gwyneb cariadlawn o'r golwg hyd ddydd adferiad pob peth.
Bydded nawdd Duw dros ei gweddw a'i hamddifaid, a chyfranoged y plant yn helaeth o ragoriaethau dymunol y fam.