MR. JOHN P. SAMUELS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Gorphenaf 12fed, 1892, yn Remsen, New York, John P. Samuels, yn 61 mlwydd oed. Ganwyd Mr. Samuel yn Nghonwy, Sir Gaernarfon. Tachwedd 18fed, 1831.

Daeth i'r wlad hon yn 1849. Ar ôl aros ychydig yn New York, symudodd i Utica, ac wedi hyny i Oriskany, Holland Patent, Prospect, a sefydlodd o'r diwedd yn Remsen, lle y priododd Miss Maria Edwards, a lle y bu yn byw 28 mlynedd, yn cadw masnach ddillad.

Yr oedd yn ddyn dichlynaidd, cymeradwy gan bawb. Gadawodd weddw ac un mab, Edward, a brawd, Hugh Samuels, Lake Forest, Chicago.

Y Drych ~ Gorphenaf 21ain 1892.


MR. JOHN P. SAMUELS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Gorphenaf 12fed, yn Remsen, New York, ar ôl dyoddef hir gystudd, Mr. John Samuels, yn 61 mlwydd oed, gan adael priod ac un mab, Edward, a pherthynasau eraill, i alaru eu mawr golled ar ei ôl.

Cawsai Mr. Samuels fel llawer eraill y la grippe y gauaf blaenorol, ac ni chwbl wellaodd ar ôl hyny.

Brodor ydoedd o Gonwy, Gogledd Cymru. Ymfudodd i'r wlad hon yn 1849, a bu yn aros am beth amser yn Holland Patent, Oriskany Falls, Prospect, a Utica, New York, lle yr ymunodd mewn priodas â Miss Mariah Edwards, yn 1864, yr hon a fu yn "ymgeledd gymwys" iddo yn llawn ystyr y gair, a symudasant i Remsen, lle y buont yn byw yn nghyd am 28 mlynedd; a lle y terfynodd ei yrfa ef yr amser a nodwyd.

Dilledydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, yr hon a ddilynodd am flynyddoedd lawer.

Cafodd gladdedigaeth barchus ar y 15fed, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Mr. Snyder, ei weinidog, ac E. Davies. Claddwyd ei weddillion yn mynwent Fairchild.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Hydref 1892.