MR. LLEWELYN THOMAS. MINNEAPOLIS, MINNESOTA.
Awst 7fed, 1892, yn Minneapolis, Minnesota, yn 14 mlwydd a 2 fis oed, Llewelyn Thomas, mab Mr. a Mrs. William J. Thomas.Ymfudodd y teulu i'r wlad hon o'r Fachwen, plwy' Llandinorwig. Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru tua wyth mlynedd yn ôl, ac ymsefydlasant yn Minneapolis.
Ganwyd Llewelyn yu Bryn Peris, Mehefin 6ed, 1878. ar fore y Sulgwyn, a bedyddiwyd ef Gorphenaf 28ain, yr un flwyddyn, gan Apostol y Plant set y Parch. Robert Owen, Rhyl.
Cafodd yr hip disease, fel y bu yn gorfedd am fisoedd. Pan y meddylid ei fod yn gwellhnau yn raddol, daliwyd ef yn ei wendid gan afiechyd gieuol, a rhwng yr ymosodiad terfynwyd ei yrfa ar y ddaear yn gynarol iawn. Dyoddefodd ei gystudd yn dawel hyd y diwedd. Yr oedd yn fachgen deallus a darllengar, a chwaeth gref at wybodaeth. Yr oedd llyfrau wedi eu crynhoi o'i amgylch tra yn ei wely.
Pan y derbyniwyd deg o blant at holl freintiau yr eglwys ddechreu y flwyddyn hon, derbyniwyd ef gyda hwynt tra yn ei wely. Dysgwyliai pawb y buasai Llewelyn yn myned yn bregethwr. Cymerodd ei rieni drafferth fawr i'w addysgu i adrodd penau y pregethau; ac yr oedd yntau yn un o'r rhai hyny ag yr oedd yn werth trafferthu gydag ef.
Cafodd gladdedigaeth barchus iawn. Yr oedd cymdeithas y Mission Band, a phlant yr ysgol Sabbothol oll yn ei gladdu, ac yn gollwng bob un o honynt swp o flodau i'w fedd.
Gwelnyddwyd gan yr ysgrifenydd a'r Parch. Thomas R. Jones.
JOS. ROBERTS.