MR. ROBERT THOMAS. ARVONIA KANSAS.

Medi 20fed, 1892, yn 76 mlwydd oed, Robert Thomas, Arvonia, Kansas.

Genedigol oedd o Castell Gwgan, ger Pwllheli, Gogledd Cymru. Yr oedd yn adnabyddus i lawer yn nhhylchoedd Utica a Floyd. Yr oedd yn un o sefydlwyr cyntat Arvonia, a thrwy ei lafur a'i ddiwydrwydd, a benditt yr Arglwydd ar hyny, cyraeddodd amgylchiadau cysurus.

Yn ei flynyddoedd olaf dyoddefodd gystudd mawr o'r dropsi a blinderau eraill, ond parhai yn lled dawel a dirwgnach.

Bu yn aelod ffyddlon o eglwys y T. C. yn y lle tra y gallodd, a meddai barch dwfn i bethau cysegredig. Cafodd gladdedigaeth barchus, a gweinyddwyd gan y Parchn. J. T. Evans, D. Todd Jones, Arvonia, a J. Jones, Emporia.

Yr oedd yn naturiol yn drefnus, pan yn iach gydag ef ei hun, ei oruchwylion i mewn ac allan; a thebyg ydoedd pan y nododd yn mlaen llaw drefn ei gladdedigaeth. Detholodd yn destyn, dros bedair blynedd yn ôl, Dat 14:13 a llefarodd un o'r brodyr uchod arno yn ei angladd. Hyderwn ei fod wedi trefnu yu dda ar gyfer tu draw i farw.

Nodded Duw Jacob fyddo dros ei weddw a'r gweddill o'r teulu.

Y Drych Tachwedd 24ain 1892.