MR. WILLIAM H. THOMAS. ASHLEY, PENNSYLVANIA.
Tachwedd 17eg, 1892, yn Ashley, Pennsylvania, o'r darfodedigaeth, yn 61 mlwydd oed, William H. Thomas, y mason.Genedigol ydoedd o Bont-ty-gwyn, Llandegai, Arfon. Enw ei rieni oeddynt Hugh ac Ellen Thomas. Yr oedd yn berthynas agos i'r Parch. H. Hughes, Tegai.
Pan yn lled ieuanc ymbriododd ag Ellen, merch Morgan Jones, Bryn-y-Foty, Cwmyglo, Arfon, a daethant i'r wlad hon gan ymsefydlu yn Utica, New York. Symudasant oddiyno i Wanamie, Pennsylvania ac oddlyno i Ashley.
Claddwyd ef y Sabboth canlynol yn mynwent Ashley, y Parch. Hugh Hughes yn gweinyddu. Daeth tyrfa fawr yn nghyd, yr hyn oedd yn profi ei fod yn barchus iawn gan bawb.
Pan yn Utica yr oedd yn aelod yn nghapel Dr. Gwesyn Jones, a bu yn aelod ac yn swyddog gyda'r Annibynwyr ar Rolling Mill Hill; ond gyda'r T. C. yr oedd yn aelod yn y lle hwn, a gellir dweyd am dano ei fod yn grefyddwr dysglaer. Pethau crefydd oedd ei bethau goreu bob amser. Yr oedd ganddo brofiad uchel fel rheol, a byddai yn werth gwrando arno ar rai adegau yn ei adrodd, yn enwedig pan y byddai yn tori dros yr ymylon. Ond fel gweddiwr yr oedd ei fawredd; nid yn aml y clywson neb mor afaelgar wrth orsedd gras. Buom yn dymuno cael bod yn debyg iddo yn hyn lawer gwaith.
Mae iddo briod a phedwar o blant i alaru ar ei ôl.