MRS. ANNIE WILLIAMS. 2234 TAYLOR STREET, PHILADELPHIA, PENNSYLVANIA.
Mehefin 21ain, 1892, yn 2234 Taylor Street, Philadelphia. Pennsylvania., anwyl briod Robert Williams, gynt o Porthdinorwig, Gogledd Cymru, ar ôl tua mis o gystudd.Daeth Mrs. Williams, gynt Annie Owens, i'r wlad hon tua phedair blynedd yn ôl o Ffestiniog, a bu fyw yn y ddinas hon er hyny. Priododd Awst 20fed, 1891. â Mr. Williams, ac yr oeddynt wedi cychwyn cyd deithio ar y ddaear hon yn hynod o hapus. Yr oedd Mrs. Williams yn bur adnabyddus gan holl Gymry y ddinas a'r cyffiniau, ac wedi bod yn hynod o weithgar gyda gwaith yr Arglwydd yn yr eglwys Gymreig, o'r hon yr oedd yn aelod o'r cychwyniad.
Hebryngwyd ei gweddillion, Mehefin 24ain, i'r gladdfa Gymreig, Mount Moriah, gan dorf barchus. Gweinyddwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parch. Fred. Evans, D. D.
Ni welais erioed fwy o arwydd o gydymdeimlad nag yma â'r brawd Robert Williams yn ei alar.