MR. FRANCIS G. WILLIAMS. BUTTE CITY, MONTANA.

Chwefror 29, 1892, yn Butte City, Montana, yn 37 mlwydd a 7 mis oed, Francis G. Williams, genedigol o'r Tymawr, Rhiw, Lleyn, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, lle mae iddo dad a thri o frodyr yn awr yn fyw. Y mae iddo hefyd frawd a chwaer, o'r enwau William a Catherine, yn Rome, New York, a brawd a chwaer, o'r enwau Richard a Jennie; yn San Francisco, California.

Ymfudodd i'r wlad hon yn 1874, ac ymsefydlodd am ychydig yn California. Symudodd oddiyno i Ruby Hill, Nevada, lle y bu yn aros am tua chwe blynedd; oddiyno symudodd 1 Butte, Montana, lle y treuliodd y deng mlynedd diweddaf o'i oes.

Cafodd gladdedigaeth barchus o dan nawdd yr A. O. U. W., o'r hon urdd yr oedd yn aelod er's rhai blynyddoedd. Yr oedd hefyd yn aelod ffyddlon a selog yn eglwys y Presbyteriaid yn Butte. Yr oedd ei chwaer Jennie wedi cyraedd yma o San Francisco ychydig oriau cyn iddo farw, ac yr oedd ei frawd Richard, o'r un lle, wedi cyraedd yma erbyn y gladdedigaeth. Dangosodd Cymry Butte eu cydymdeimlad llwyrat a'r ddau yn eu profedigaeth.

Y Drych ~ Ebrill 7fed 24ain 1892.