MRS. GWENLLIAN WILLIAMS. BARNEVELD, WISCONSIN.
Ebrill 4ydd, 1892, yn Barneveld, Wissconsin, Mrs. Gwenllian Williams, o'r Hollow, yn 65 mlwydd a 6 mis oed.Ganwyd hi yn l826 yn Gau'r Gai, Gwerfyl Goch, ger Corwen, sir Feirionydd. Enwau ei rhieni oeddynt Mr. a Mrs. Hugh Jones. Yn I845 ymunodd â chrefydd gyda'r T. C., ond er mwyn cyfleusdra yr oedd ers blynyddau meithion wedi ymuno a'r Annibynwyr, a bu yn addurn i grefydd yr lesu hyd y diwedd.
Yn 1849 priododd D. Williams, yr hwn a fawr berchid gan bawb o'i gydnabod ar sail ei ysbryd addfwyn a'i dduwioldeb diamheuol. Bu yr undeb yn un dedwydd hyd farwoiaeth Mr. Williams yn 1870.
Daeth Mr. a Mrs. Williams i'r wlad hon yn 1851, a chyraeddasant Rock Prairie. Wisconsin, yn Mehefin yr un flwyddyn. Arosasant yno hyd yr hydref, yna symudasant i Union, Rock County, lle y buont byw hyd 1855, pryd y symudasant i Ridgeway. Ganwyd iddynt naw o blant, ond nid oes ond pump yn fyw, a'r oll yn y pentref hwn, sef Mrs. John Roberts, Mrs. Frank Powell, Mrs. Richard Kendrick, Mrs. John Malone a D. L. Williams.
Yr oedd Mrs. Williams yn gymeriad ar ei phen ei hun. Yr oedd iddi ei dull ei hun yn mhob peth a ddywedai ac a wnai, a phrofodd ei hun yn gydmares ddiwyd a darbodus, yn fam dyner a gofalus, yn gymydoges garedig a pharod i gymwynas ganol nos fel canol dydd. Fel aelod crefyddol bu yn ffyddlon a selog iawn, ac mae ei lle yn wag yn y tŷ, y byd a'r eglwys.
Dyoddefodd tua phymtheg mis o gystudd trwm yn dawel a dirwgnach, a phan bu farw rhoddodd esboniad eglur iawn o'r gwirionedd hwnw, "Ni frysia yr hwn a gredo." Y darfodedigaeth oedd ei gelyn marwol hi.
Dydd Iau canlynol daeth tyrfa luosog yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i un o hen bererinion Sion. Wedi gwasanaeth fer yn y tŷ aed i gapel yr Annibynwyr, lle yr oedd yn aelod dysglaer, a gweinyddwyd mewn modd effeithlol a phwrpasol gan y Parchn. G. Jones, J. H. Davies, D. E. Phillips, Waukesha, J. D. Davies, Spring Green, a A. L. Rowe. Claddwyd hi yn mynwent y Capel Gwyn.