MR. ROBERT WILLIAMS. DODGEVILLE, WISCONSIN.

Ionawr 23ain, 1892, yn Dodge Ville, Wisconsin yn 82 mlwydd oed, Robert Williams, ar ô1 ychydig ddyddiau o gystudd.

Ganwyd yr henafgwr hwn yn Cefn Chwilog, ger Pwllheli, Sir Gaernarfon. Bu yn gwasanaethu am ysbald pum mlynedd gyda'r enwog Barchedig John Jones, Talsarn. Yr oedd ganddo feddyliau mawr am dano. a'i hyfrydwch mwyaf ydoedd coffa am garedigrwydd a duwioldeb y seraff a'i briod. Ymddengys i wrthrych ein cofiant symud o Gymru i'r wlad hon yn 1846. Bu yn aros am ychydig tua chymydogaeth Utica, ond yn fuan symudodd oddiyno i ardal Columbus, Wisconsin.

Yr oedd yn un o sefydlwyr cyntaf yr ardal hon, a difyr oedd gwrando arno yn adrodd hanesion am yr hen bioneers, Parch J. J. Roberts ac eraill. Nid ydym yn gwybod yr adeg y symudodd i'r dref hon: ond wedi dod, dyma ei gartref hyd ddiwedd ei yrfa. Tua 23ain mlynedd yn ôl priododd gyda Mrs. Sarah Evans, yr hon sydd yn hanu o denlu yr enwog "'Rhen Broffwyd" Bethesda - yr hon hefyd sydd wedi ei goddiweddyd gan gystudd. Gellir dweyd iddo farw fel y bu fyw - yn gobeithio pan yn marw.

Tystiolaeth pawb o bob cenedl ydoedd ei fod yn ŵr duwlol. Yr oedd yn Gristion gloyw, yn ddarllenwr mawr, yn weddiwr taer, yn dduwinydd da, yn briod a thad caredig. Teimlir gwir golled ar ei ôl yn mhob cylch. Cyn marw yr oedd wedi dymuno dri pheth, a chafodd ei ddymuniad, sef cael byr gystudd, cael marw o flaen ei briod, a pheidio ei gladdu ar y Sabboth. Yr oedd yn un o dderbynwyr henaf y DRYCH, ac yn ddarllenwr mawr arno.

Cymerodd yr angladd le prydnawn dydd Llun, Ionawr 26ain. Cynaliwyd gwasanaeth yn y tŷ ac ar lan y bedd. Cymerwyd rhan gan y Parchn. J. Davies. Spring Green; David Davies, Rosendale; J. Powell, Griffth Jones a Peter Gray Evans. Dodgeville.

Y Drych Chwefror 11eg 1892.


MR. ROBERT WILLIAMS. DODGEVILLE, WISCONSIN.

"Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Un o'r nodweddiad hwn yn ddios oedd yr ymadawedíg, Robert Williams. Y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig gan bawb o fewn cylch eang ei adnabyddiaeth.

Ganwyd ef yn y flwyddyn 1810, mewn lle o'r enw Cefnchwilog, ger Pwllheli, Enwau ei rieni oeddynt Robert ac Ellen Williams, y rhai a dderbyniwyd pan mewn gwth o oedran yn aelodau o eglwys Gynulleidfaol oedd gerllaw eu cartref.

Cafodd Mr. Williams, gwrthrych y byrgofiant hwn ei dderbyn yn aelod pan oddeutu 17 mlwydd oed, gyda y Methodistiaid Calfinaidd. Bu yn aros am bum' mlynedd yn nhŷ y Parch. John Jones, Llanllyfni. Unodd â dirwest gryn amser cyn dyfod o Gymru, a bu yn ffyddlawn i'w ymrwymiad hyd angeu.

Daeth i America yn y flwyddyn 1845. Sefydlodd yn Columbus, a bu yno hyd y flwyddyn 1854. Yn ei holl symudiadau cadwodd ei grefydd. Dywedir iddo gael ei wneyd yn ddiacen gyda y Methodistiaid yn Dodgeville, oddeutu y flwyddyn 1854, sef yr amser y daeth i Dodgeville i sefydlu.

Priododd â Mrs. Sarah Evans Tachwedd 13eg 1865.

Unodd a'r eglwys Gynulleidfaol yn Dodgeville oddeutu y flwyddyn 1873, a pharhaodd yn aelod ffyddlawn o honi hyd nes iddo ei chyfnewid am yr eglwys orfoleddus fry. Yr oedd yn ddyn tawel a heddychlawn, yn meddu ar alluoedd cryfion. Yr oedd o ran ei farn yn Galfinaidd; yn oleuedig yn yr ysgrythyrau, a'i dduwioldeb uwchlaw amheuaeth. Dyn pur iawn ydoedd; dysglaeriai delw ein Harglwydd Iesu yn ei wedd. Byddai ei weddiau gafaelgar a'i anerchiadau byrion yn dylanwadu yn rhyfeddol ar y cyfarfodydd gweddi a'r cyfeillachau crefyddol. Yr oedd crefydd Crist a'i dyledswyddau yn fwyd ac yn ddiod iddo, a chyfranai yn helaeth a chyson er ei chynhaliaeth. Yr oedd yn gydwybodol yn nghyflawniad ei ddyledswyddau tuag at Dduw a dynion.

Ni chafodd ond cystudd byr. Bu farw Ionawr 23ain, 1892, mewn gwir ddyogel obaith am adgyfodiad gwell. Gweinyddwyd yn ei gladdedigaeth gan y gweinidogion canlynol, Davies, Spring Green; Davies, Soar, Rosendale; Davies, Barneveld; a Jones ac Evans, Dodgeville. Canwyd gyda theimladau drylliog y penill a ganlyn yn ei gladdedigaeth:

"Mor ddedwydd yw y rhai trwy ffydd,
Sy'n myn'd o blith y byw;
Eu henwau'n perarogli sydd,
A'u hûn mor beraidd yw."
Y mae enw Robert Williams, ein brawd anwyl, yn perarogli yn beraidd yn Dodgeville, er ei fod wedi marw. Bydded amddiffyn Duw ar ei wraig, yr hon fu iddo yn ymgeledd gymwys, a llanwed y nefoedd y bylchau sydd wedi cael eu gwneyd yn yr eglwysi Cymreig yn Wisconsin yn ddiweddar.

Y Cenhadwr Americanaidd Mehefin 1892.