MRS. GWEN DAVIES. RANDOLPH, WISCONSIN.

Hydref 21ain, 1893, yn Randolph, Wisconsin, Mrs. Owen Davis, gweddw y diweddar William Davis, yn 78 mlwydd ac 11 mis oed.

Dyoddefodd gystudd trwm am oddeutu tair wythnos, ac ni allodd triniaeth feddygol, gofal cyfeillion a phlant anwyl gadw angeu draw.

Ymfudodd y teulu i'r wlad hon 60 mlynedd yn ôl o'r Gwynfryn, Sir Feirionydd, gan ymsefydlu am tua thair blynedd yn Nghoed yr Afon Ddu, New York; yna symudasant i Lake Emily, Wisconsin, a 27ain o flynyddoedd yn ôl i Randolph.

Gadawodd i alaru ar ôl ddau fab a thair merch, Edward Davis a Mrs. T. C. Prltcbard, Lake Emily, Wisconsin; William Davis, Racine; Mrs, E. Ed. Jones, Chicago, a Mrs. Evan Roberts, Randolph.

Nodwedd amlwg iawn yn mywyd Mrs. Davis oedd duwioldeb. Nid oedd neb yn ameu ei gwir dduwioldeb. Darllenai lawer ar y Beibl, a chyda phethau crefydd yr oedd yn byw; er iddi fod yn wraig a mam dda a darbodus, pethau crefydd oedd yn cael y lle blaenaf ganddi bob amser.

Gweinyddwyd yn ei hangladd gan y Parchn. R. H. Evans, Cambria; D. R. Jones Engedi, a W Davis, Berea. yn ddymunol iawn.

Claddwyd hi yn mynwent Randolph.

Y Drych ~ Tachwedd 30ain 1893.