MR. WILLIAM DAVIES. QUINCY, MASSACHUSETTS.

Medi 13eg, 1893, yn ei gartref yn Quincy, Massachusetts, y cyfeillgar gymrawd William Davies, yn 61 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn Glan Meurig, Bethesda, Gogledd Cymru. Ymfudodd i'r wlad hon yn ddyn led ieuanc, ac adnabyddid ef yn Boston a'r cylchoedd fel un o hen sefydlwyr Quincy.

Ysgrifenai i'r DRYCH uwch yr enw mabwysiedig "Glan Meurig." Yr oedd yn ddyn hynaws a charedig, ffraeth ei ymadroddion, hoff o farddoniaeth Gymreig a'i chynganeddion ac iddo lu o gyfeillion.

Dyoddefodd gystudd maith. Yr oedd yn aelod o gymdeithas yr Odyddion. Hebryngwyd ef i dy ei hir gartref, Sadwrn, Medi 16eg, gan dorf barchus yr Odyddion a chyfeillion Cymreig.

Claddwyd ef yn Mount Wollaston Cemetery. Cydymdeimlir yn ddwys â Mrs. Davies a'r ferch hefyd a Robert, brawd yr ymadawedig, yr hwn sydd yn Bethesda, Gogledd Cymru.
G. J. WILLIAMS.

Y Drych ~ Hydref 5ed 1893.