MRS. JANE ELLIS. BEVIER, MISSOURI.
Mawrth 4ydd, 1893, yn 61 mlwydd oed, Mrs. Jane Ellis, anwyl briod R. Ellis, Bevier, Missouri.Ganwyd hi yn Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Dygwyd hi i fyny yn grefyddol a daliodd yn ffyddlon hyd y diwedd. Pan yn 16 oed ymunodd mewn glan briodas â R. Ellis, a phrofodd bob amser yn goron i'w gŵr.
Yr oedd yn hynod am ei duwioldeb, ac wedi darllen ei Belbl ddwywaith drosodd a'r Testament hefyd ar wahan i hyny ddwywaith.
Ymfudodd y teulu i'r wlad hon yn 1872, gan ymsefydlu yn Bangor, Pennsylvania; oddiyno aethant i Plymouth, Pennsylvania, yna i South Missouri, ac yn olaf i Bevier, lle gwnaethant gartref cysurus iawn.
Gadawodd Mrs. Ellis ar ei hol ddwy chwaer yn Bangor, Pennsylvania, a phriod unig.
Claddwyd hi ar y 6ed gan dyrfa luosog, y Parchn. R. H. Owen a J. L. Gay yn gweinyddu. Sabboth, 16eg. traddododd y Parch. R. H. Owen bregeth angladdol iddi yn Nghapel y Presbyteriaid Cymreig, lle yr oedd yn aelod, oddiar Rhuf. 14, 9.
CYFAILL.