MRS. CATHERINE EVANS. BELLEVUE, KENTUCKY.
Awst 24ain, 1893, Mrs. Catherine Evans, priod Morris Evans, yn ei chartref clyd yn Bellevue. Kentucky.Ganwyd hi ar fferm fechan a elwid y pryd hwnw Penyweirglodd, gerllaw Dinas Mawddwy, Gogledd Cymru, yn 1826. Enwau ei rhieni oedd Lewis ac Elizabeth Edwards, enwog am eu bywyd crefyddol.
Yr oedd Mrs. Evans yn un o ddeg o blant, ac o'r deg nid oes ond un yn fyw, sef Mr. Rowland Edwards, un o ddiaconiaid ffyddon a pharchus eglwys Lawrence Street, Cincinnati, a dymuniad yr eglwys yw iddo gael byw flynyddau eto i wasanaethu Duw yn y dyfodol fel yn y gorphenol. Gwnaeth Mrs. Evans broffes fore o Grist a derbyniwyd hi yn aelod o'r eglwys Gynulleidfaol yn y Bala gan y diweddar Barch M. Jones, tad y prif athraw presenol.
Unodd mewn prlodas â Morris Evans yn Llandderfel, ac yn fuan wedyn aethant i fyw i Lerpwl. Ar ôl rai blynyddau symudasant i Landudno ac oddiyno, yn Ebrill, 1880, ymfudasant i'r wlad hon, a sefydlasant yn Cincinnati. Unasant a'r eglwys Gynulleidfaol Gymraeg ar Lawrence Street, a bu eu haelodaeth yn enill i'r eglwys.
Yr oedd Mrs Evans yn wraig grefyddol a rhinweddol iawn. Yr oedd ei gofal yn fawr am gysur ei phriod, a gwnaeth y goreu o'i enillion fel mae wedi ei adael mewn amgylchiadau da. Ni fu dau yn cyd-dynu yn well erioed. Teimla y tŷ yn wag a'r aelwyd yn oer hebddi. Er nad oedd yn fam, yr oedd telmiad ac aberth mam yn perthyn iddi.
Ni bu mam erioed yn fwy gofalus a thyner i'w phlentyn naturiol nag y bu hi i'w mab mabwysiedig a gobeithio na ddiystyra yr addysg a gafodd. Yr oedd yn fwy o fam na moiryb i Mrs. Jones, ei nith, a'i thri plentyn bychan. Yr oedd yn ymddwyn tuag atynt fel pe byddent ei phlant. Yr oedd yn wraig onest a didwyll. Ni wyddai beth oedd rhagrith a gweniaeth.
Yr oedd yn ofni'r Arglwydd, yr oedd yn hoff o'r Belbl, yr ysgol Sul a'r addoliad cymdeithasol. Gwelir ei heisiau yn y capel. Nid oes eisiau dweyd i wraig mor grefyddol farw yn dawel, farw yn gryf ei ffydd, ie, farw a'i phwys ar y Ceidwad mawr.
Dygwyd y gwasanaeth angladdol yn mlaen yn y capel gan yr ysgrifenydd, a daearwyd ei rhan farwol yn meddfan ei brawd yn Spring Grove. Gorphwysed ei llwcb mewn heddwch.
Gwneled yr Arglwydd ei marwolaeth yn fendith i'w phrlod a'i pherthynasau galarus. a chymwysed hwynt i'w chyfarfod yn ngwlad yr hedd.
D. JONES.