MR. EVAN D. EVANS. OSHKOSH, WISCONSIN.

Hydref 31ain, 1893, yn sefydliad Oshkosh, Wisconsin, Evan D. Evans, Peniel.

Ganwyd ef Rhagfyr 18fed, 1814. Mab ydoedd i David a Gwen Evans, Foel Llanfihangel, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.

Wedi iddo dyfu yn llanc; aeth i aros ger Rhuthin, Sir Ddinbych.

Yn 1844 priodwyd ef gyda'i hoff "Sarah," yr hon sydd heddyw mewn dwys alar ar ei ôl.

Yn 1847, daethant dros y Werydd maith a thrigiasant yn Utica, New York am dymor. Wedi hyny symudasant i ardal Waukesha, ac oddiyno drachefn, yn 1850, i ardal Oshkosh, gan sefydlu ar y tyddyn ger Peniel, lle y treuliasant y tair blynedd a deugain dweddaf. Un brawd sydd ganddynt, yr hwn hefyd fel hwythau oedd hen sefydlwr yn yr ardal - D. S. Evans. yn awr yn Big Rock. Illinois.

Gadawodd ar ei ôl un ferch — Mrs. H. Rees (Harry ar eioreu), Clay County, Iowa, i gartref clyd yr hon y mae ei weddw wedi myned i aros.

Yr oedd yn ddyn siriol a charedig. Nid gormod dweyd ddarfod i filoedd o ddyeithriaid fod yn eistedd wrth ei fwrdd ef a'i briod i fwynhau eu lletygarwch haelfrydig. Talai trwy el holl oes barch i'r efengyl, mor bell ag i'w gwrando yn gyson ac astud. Ond tua dwy flynedd yn ôl derbyniodd ymweliad grasol a barodd iddo wneyd proffes gyhoeddus o'r Gwaredwr: ac y mae lle i hyderu ddarfod iddo gael "marw yn yr Arglwydd."

Claddwyd ef ger Soar, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. R. F. Jones a'r ysgrifenydd. Hefyd cynaliwyd oedfa goffadwriaethol yn Peniel bore Sabboth, Tachwedd 12fed, oddiar Ioan xi. 25-26.
DAVID DAVIES.

Y Drych ~ Rhagfyr 14eg 1893.