MRS. JANE EVANS. RACINE, WISCONSIN.

Hydref 27ain, 1893, yn Racine, Wisconsin, yn 72 mlwydd oed, Mrs Jane Evans, priod y diweddar William Evans. Bu yn nychu yn hir, ond dyoddefodd ei chystudd yn dawel ac amyneddgar.

Yr oedd yn enedlgol o ger Porthmadog, Gogledd Cymru.

Daeth y teulu i America yn 1851, gan ym sefydlu yn swydd Racine, lle buont yn amaethu am lawer o flynyddoedd, ond ar ôl gwerthu eu fferm daethant i fyw i'r ddinas rai blynyddoedd yn ôl.

Yr oedd yn aelod ffyddlon ac ymroddgar o eglwys y T. C., a bu farw yn dawel yn ngobaith gwynfydedig yr efengyl.

Cymerodd yr angladd le o addoldy y T. C. ar y 30ain, y Parchn. Evans a Roberts yn gwasanaethu.

Daeth tyrfa fawr yn nghyd o gyfeillion a chymydogion i dalu y gymwynas olaf iddi, ac i gydymdeimlo a'i phlant a'i hwyrion yn eu galar dwfn.
T. L. W.

Y Drych ~ Tachwedd 9fed 1893.