MR. WILLIAM W. EVANS. SLATINGTON, PENNSYLVANIA.

Awst 25ain 1893, yn Slatington, Pennsylvania, yn 67 mlwydd oed, William W. Evans - Celyn, fel yr adnabyddir ef yn gyffredin, gan adael gweddw a phump o blant i alaru ar ei ôl.

Dydd Llun canlynol daeth tyrfa luosog i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref, ac yn eu plith aelodau y G. A. R. a'r Odd Fellows.

Yn ôl barn llawer o'r ben bobl y lle yr oedd ei angladd yn un o'r rhai mwyaf a welsant erioed. Gwasanaethwyd gan y Parchn. William T. Williams (A.), a gweinidog y Presbyteriaid Saesonig.

Daeth yr ymadawedig i Slatington o Talywaenydd, Arfon Gogledd Cymru, 48 mlynedd yn ôl, ac yn mhen pedair blynedd ymbriododd â Jemimah merch William J. Gilffiths, Bena'r Bronydd, Bethesda, Arfon.

Ganwyd iddynt saith o blant; a gellir dweyd am y ddau a gytunwyd mor fore yn hanes Slatington, eu bod wedi gweled llawer o bethau hynod yn eu bywyd maith yma er pan oedd y lle ond anialwch braidd. Bu y ddau ar lawer adegyn gymwynasgar a da i aml Cymro ar eu dyfodiad yma. Bu Mr. Evans yn arolygydd ar lawer chwarel yn y lle ac felly rhoddodd waith i lawer Cymro dyeithr. Yr oedd bob amser yn cefnogi Cymro o flaen yr un genedl arall; ac mae llawer yn ddiameu yn barod i anfon ochenaid hiraeth ar ei ôl gyda'i weddw a'i blant.

Cydnabyddid ef yn expert mewn chwarelyddiaeth, a galwyd arno lawer tro i roddi ei farn ar leoedd i agor chwareli. Er na fu ef ei hun mor llwyddianus a llawer, gellir dweyd ei fod wedi treulio oes bur hapus.

Bu hefyd yn bur weithgar gyda llawer o bethau yma. Bu yn myned yn selog i hen felin yn Welshtown i addoli ar y Sabbothau cyn cael yr un capel yn y lle hwn, a bu hefyd yn ddiwyd yn codi y capel cyntaf yma yn 1851.

Gwelodd lawer tro ar bethau crefyddol oddiar hyny, er nad oedd ei hun yn aelod crefyddol. Bu ar fwrdd y Cyngor Trefol, ac yn llanw swyddi eraill pwysig. Yr oedd yn ddyn o farn lled dda mewn llawer ystyr, a gwnaeth fwy o ddaioni i eraill o bosibl nag a wnaeth iddo ei hun.

Dymunwn oes faith a nodded y Nef i'w weddw a'i blant.

Y Drych ~ Medi 28ain 1893.