MRS. ANN HUGHES. PROSPECT, NEW YORK.
Mai 23ain, 1893, yn 92 mlwydd oed, Mrs. Ann Hughes, gweddw H. H. Hughes, Prospect, New York.Genedigol ydoedd o Aberdyfi, Sir Feirionydd. Ymfudodd i America yn 1841, gyda'i gŵr a thair o ferched. Yr oedd yn ddynes a fawr berchid, ac yn aelod gyda'r M. E.
Gadawodd ar ei hol dair merch - Mrs. D. J. Pugh, Prospect; Mrs. James Hughes, Remsen; Mrs. E. E. Williams, Utica.