MRS. ELEANOR HUGHES. DELAFIELD, WISCONSIN.

Awst 6ed, 1893, yn mhlwyf Dalafield, Wisconsin, Mrs. Eleanor Hughes. yn 85 mlwydd oed. Ganwyd hi a'i gŵr, Edmund Hughes, yn mhlwyf Llanllechid. Sir Gaernarfon, ac ar ôl iddynt briodi buont yn byw yn Tai-isaf, plwyf Llanllechid, nes iddynt symud i'r wlad hon yn 1852.

Bu farw ei gŵr ar ei ffordd i'r wiad yma yn St Louis, Missouri, ac yno y claddwyd ef; ond daeth Mrs. Hughes yn mlaen i Wisconsin, gan sefydlu yn mhlwyf Delafield.

Gadawodd gartref cysurus hefyd, dymunol a pharadwysaidd yn Nghymru. Cafodd addysg grefyddol dda iawn yn more ei hoes gyda'r Methodistiaid. Yr-oedd yn hynod o hyddysg yn ei Beibl, fel y dywedodd Dr. Rowlands, Chicago. Yr oedd yn fam dyner, ofalus, ffyddlawn a darbodus; yn hen wraig a berchid yn fawr gan ei chydnabod ar gyfrif ei charedigrwydd hynod. Yr oedd yn fam i wyth o blant, o'r rhai mae pump yn fyw, sef Mrs. Mary Davies, gwraig Eos Llechryd, yn Nghymru, Griffith yn Wisconsin, Eleanor yn Bevier, Missouri; Hugh ac Ann Hughes yn Wisconsin.

Cafodd gladdedigaeth barchus yn mynwent y Tabernacl, y Parch. D. E. Philiips yn gweinyddu.

Y Drych ~ Medi 7fed 1893.