MRS. JANE HUGHES. MORIAH, WAUKESHA COUNTY, WISCONSIN.
Rhagfyr 24ain, 1893, Mrs. Jane Hughes, priod W. Hughes, un o ddiaconiaid eglwys Moriah, Waukesha County, Wisconsin., o'r bronchitis, yn 78 mlwydd oed.Ganwyd a dygwyd y chwaer hon i fyny yn Llangian, Lleyn, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Symudodd i America ryw 35 mlynedd yn ôl. Ymsefydlodd hefyd yn nghymydogaeth Moriah. Bu yn aelod ffyddlawn gyda'r Methodistiaid am haner cant o flynyddoedd.
Cafodd yr eglwys yn Moriah golled fawr yn marwolaeth y chwaer hon, canys bu yn ymddwyn gyda'r achos mawr o'r adeg y sefydlwyd ef yn Moriah hyd ei bedd.
Gadawodd briod a phedwar o blant ar ei hol, yr oll wedi tyfu i fyny. Mwynhaed ein hen frawd lawer o gysuron crefydd yn hwyrddydd ei einioes hyd yn nod ar ôl colli priod ei fynwes.
Daeth tyrfa luosog i wasanaethu iddi y gymwynas olaf, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. W. Matthews.
Y Drych ~ Ionawr 25ain 1894.
MRS. JANE HUGHES. MORIAH, WAUKESHA COUNTY, WISCONSIN.
Yr oedd Mrs Hughes yn enedigol o Langian, Lleyn, Sir Gaernaríon, Gogledd Cymru.Ymbriododd gyda W. Hughes, un o ddiaconiaid capel Moriah, dros 50 mlynedd yn ôl.
Ymfudaaant i America tua 30 mlynedd yn ôl, ac ymsefydlasant yn nghymydogaeth Moriah.
Cafodd y chwaer hon ymosodiad trwm o'r grip, ac wedi hyny o'r bronchitis, o'r hwn y bu farw, Rhagfyr 24ain, 1893, yn 78 mlwydd oed.
Gadawodd briod a phedwar o blant i alaru eu colled ar ei hol. Daeth tyrfa fawr i dalu y gymwynas olaf iddi, yr hyn oedd yn dangos ei bod yn sefyll yn uchel yn syniad y gymydogaeth.
Gwasanaethwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parch. W. Matthews, Waterville. Collodd y gŵr briod ffyddlawn a chywir yn ei marwolaeth, y plant fam dyner a gofalus, a chollodd y gymydogaeth gymydoges dawel a charedig; ac y mae yr eglwys yn Moriah yn gymaint ei cholled â neb.
Gallwn dybied iddi gychwyn yn foreu i ddilyn Iesu Grist, ac ymuno a'i eglwys ef, a bu yn aelod ffyddlawn a diargyhoedd o'r eglwys hyd y diwedd. Un o heddychol ffyddloniaid Israel oedd Mrs. Hughes. Merch tangnefedd ydoedd yn ngwir ystyr y gair. Tystiai yn groew ychydig cyn marw fod ofn angau wedi llwyr gilio oddiwrthi er ys tro; a rheswm da paham, ni gredwn fod yr Hwn a ddiddymodd angau, ac a ddug fywyd ac anllygredigaeth i oleuni, yn Ffrynd ac yn Waredwr iddi.
W. MATTHEWS.