MR. ROBERT R. HUGHES. BRATTLEBORO, VERMONT.

Rhagfyr 15fed, 1893, yn ei gartref yn Brattleboro. Vermont, Robert R. Hughes, ar ôl hir nychdod.

Ganwyd ef yn Nghaernarfon, 64 mlynedd yn ôl. Ymfudodd i'r wlad hon yn ddyn ieuanc, gan ymsefydlu yn Guilford, Vermont.

Bu yn gweithio am amser yn y chwarelau, ond am y 17 mlynedd diweddaf yr oedd yn ngwasanaeth Smith and Hunt, Baby Carriage.

Priododd Kate Stone o Guilford. a bu iddynt dri o blant, Alice, George a Bert.

Mab ydoedd i Evan Hughes, Treborth; mae iddo ddau frawd yn Meriden, Connecticut, Hugh ac Evan Hughes: dau arall yn Fair Haven, Vermont, Hugh a Llewelyn, a phump o chwiorydd; Mrs. Hugh Pritchard, Mrs. Benjamin Williams a Mrs. John T. Roberts. Fair Haven, Vermont; Mrs. Thomas Hogan, Salem, New York, a Mrs. Ed. Green. Saratoga.

Yr ydoedd yn ddyn gweithgar a gonest, a pherchid ef yn fawr gan ei holl gydnabod. Rhoddwyd ei weddillion i orphwys yn mynwent Guilford y Sabboth dylynol.
J. H. J.

Y Drych ~ Ionawr 10fed 1894.