MR. JAMES HUMPHREYS. BROWNVILLE, MAINE.

Gweddw Margaret Humphreys (1829-1886).

Y Drych ~ Medi 23ain 1886.


MR. JAMES HUMPHREYS. BROWNVILLE, MAINE.

Medi 12fed, 1893, yn Brownville, Maine, am dri o'r gloch y prydnawn, yn ei hen gartrf, yr addfwyn Gymro, James Humphrey, wedi bod yn araf addfedu am y wlad well ers llawer o fisoedd.

Ymfudodd i'r wlad hon o Bethesda, Arfon, tua deugain mlynedd yn ôl ac yn Brownviile y bu ei gartref hyd ei farwolaeth.

Yr oedd yn weithiwr caled a diwyd, yn dad tyner a gofalus i ddwyn i fyny bump o blant, tri mab a dwy ferch, y ddau fab hynaf yn Monson, a'r gweddlil yn cartrefu yma. Yr oedd ei ferch hynaf, Mrs David Lloyd, a'i phriod, wedi myned i Chicago, a sicr y bydd yn brofedigaeth chwerw iddynt ar eu cyraeddiad adref, gael y newydd galarus fod yr hen Dad wedi myned i'r byd tu draw i'r bedd.

Y dydd Iau canlynol daeth y lluaws ynghyd i hebrwng ei weddillion i dŷ ei hir gartref. Cyflawnwyd y gwasanaeth wrth y tŷ ac ar lan y bedd gan Mr. Curtis, gweinidog Seisnig, a chanodd y Cymry yn rhagorol.

Cafodd fyw i weled ei 72 mlwydd oed, a sicr y bydd ei le yn wag am lawer blwyddyn yn mhlith ei deulu a'i gydgenedl yn y lle hwn.

Y Drych ~ Medi 28ain 1893.