MRS. ANN JONES, COLUMBUS, WISCONSIN.
Mehefin 24ain, 1893, yn sefydliad Columbus, Wisconsin, Mrs. Ann Jones, priod Owen Jones, Brynfedwen, ar ôl goddef cystudd blin ac anhawdd ei ddwyn am fisoedd, o herwydd diffyg yn ngweithrediad y galon a derfynodd yn y dyfrglwyf.Ganwyd hi yn l828; merch ydoedd i David ac Ann Edwards. Coed Mawr, ger Trawsfynydd, Gogledd Cymru.
Ymfudodd gyda'i rhieni i'r wlad hon yn 1841. Bu eu trigle am y pedair blynedd cyntaf yn y Maes Mawr, sefydliad Waukesha. Oddiyno symudodd eilwaith yr un pryd a'i rhieni i'r sefydliad hwn, lle hefyd y treuliodd weddill ei hoes, ond ysbaid y bu yn gwasanaethu.
Yma y seilwyd y briodas rhyngddi a'r priod sydd heddyw yn weddw ac unig yn yr hen gartref. Gadawodd ar ei hol bedwar o feibion a dwy ferch, o'r rhai y mae dau yn aros yn y sefydliad mewn teuluoedd eu hunain, Owen Richard Jones a Mrs. John J. Williams. Er fod y gweddlll wedi ymwasgaru i bellder y Gorllewin, fe gafodd yr oll gyfarfod a'u gilydd ar ddydd ei hangladd i gymysgu eu dagrau ar fin y bedd yn mynwent Bethel.
Cyflawnwyd y gwasanaeth ar yr achlysur gan y Parchn. Thomas B. Jones a John R. Jones, yr olaf yn traddodi pregeth ar yr achlysur oddiwrth Job 14:14. o herwydd musgreilni diweddar yr oedd Mrs. Jones yn gartrefol iawn er's llawer o flynyddoedd, fel yr oedd lawer yn fwy dyeithr i'r lluaws nag yr arferai fod gynt. Pwy bynag a dalai ymweliad a'r anedd, er hyny, cai brofion ei bod yn orlawn o garedigrwydd mewn croesaw gonest; a dirodres.
Bydded nawdd dyner Rhagluniaeth dros ei phriod unig a'r plant dymunol sydd wedi eu gadael heb fam.