MR. DAVID C. JONES. RING, WISCONSIN.

Ionawr 29ain, 1893, yn ardal Ring, Wisconsin, yn 75 mlwydd oed, David C. Jones, ar ôl blynyddau o gystudd nychlyd er nad poenus.

Mab ydoedd i David Jones a'i brlod. o'r Lon, ger Llanuwchllyn, Meirion. Yno y ganed ac y maged ef, ac yno yr ymunodd â chrefydd pan yn ddyn ieuanc.

Yn 1849 priododd Jane Davies, merch yr hen ddiacon John Davies. Llwyn Einion; ger Y Bala; ac yn ngwanwyn 1847 gadawsant bobpeth oedd anwyl a gwerthfawr ganddynt er mwyn mwynderau dychymygol gwlad machlud haul.

Cawsant y wlad ond cawsant ei gofid yn gymysg a'u mwyniant, fel pawb a phob gwlad arall y tu yma i'r afon. Treuliasant y saith mlynedd cyntaf yn Marcy, ger Utica, New York, a chadwent eu haelodaeth eglwysig yn Utica. Buont wedi hyny am flwyddyn yn Detroit, Michigan, cyn symud i ddinas Oshkosh lle yr arosasant nes prynu fferm yn Ring yn 1860. Erbyn hyn yr oeddynt mewn lle cyfleus i gael ymuno ag eglwys Bethesda, ac yma y treuliodd ein brawd weddiill ei oes gyda ffyddlondeb mawr.

Yn y fynwent ger y capel hwn bellach y gorwedd yr hyn sydd ddaearol o hono. Buasai yn dda genyf pe wedi cael gwell mantais i'w adnabod. Yn ei gystudd y gwelais ef gyntaf. Deallwyf iddo gael ei ddewis yn flaenor yn Oshkosh tua 35 mlwydd yn ôl, a gweinyddodd yn y swydd gyda ffyddlondeb mawr yn eglwys Bethesda hyd ei fedd.

Gadawodd dystiolaeth dda ar ei ôl fel gwas da a ffyddlon, a chafodd ei dalu yn dda yn y diwedd yn nghwmni ei Arglwydd yn ei gystudd diweddaf.

Cafodd gystudd maith - natur yn graddol ymollwng; ond cafodd bob gofal posibl gan briod a phlant, yn arbenig eu mab Edward a'i briod y rhai oeddynt ddydd a nos wrth law i weini iddo, nes y cymerwyd ef i fynwes yr Iesu.

Chwefror laf oedd dydd yr angladd, ac er oered a garwed yr hin yr oedd tyrfa fawr wedi dod yn nghyd, yn eu plith daeth mab a merch trwy anhawsder mawr o Detroit, a mab arall o Dakota; hefyd ei frawd E. D. Jones a'i briod o Detroit.

Ar lan y bedd yr oedd mam a phump o'r saith plentyn anwyd iddynt yn cyd-gymysgu eu dagrau a'u gilydd ar ôl priod a thad anwyl a thyner. Gweinyddwyd gan y Parch. J. K. Roberts J. R. Jones, D. Davies a'r ysgrifenydd.
R. FOULK JONES.

Y Drych ~ Mawrth 9fed 1893.


MR. DAVID C. JONES.

He and his wife came to Oshkosh in 1856, where he was very useful in the Church of God.

They moved to Section 24, Utica, in 1860.

He died on February 1st, 1893, when he was 75 years old and was buried near Bethesda Church, where he had been a very faithful deacon for about 30 years. His widow lives in the old home.

Their children are : Mary Jane, the wife of John J. Owen, Detroit, Michigan; Catherine, the wife of William Lee, Linn Grove, Iowa; David C. in Lake Crystal, Minnesota; John D., married in Randolph, Wisconsin; Albert S., married in Detroit; Charles E., who married Elizabeth, daughter of W. H. Jones, with one daughter; Edward W.., who married Elizabeth, daughter of David James, and who have children. All the family followed after their parents in industry and piety.

Settlers of Oshkosh 1855-1859.