MR. DAVID D. JONES. MARINETT, WISCONSIN.

Rhagfyr 28ain, 1893, yn Marinett, Wisconsin, David D. Jones, yn 73 mlwydd oed.

Ganwyd a magwyd ef yn y Shop Bach, Dolwyddelan.

Daeth i'r wlad hon pan tua 18 mlwydd oed, a bu yn gweithio yn Utica a manau eraill yn New York a New Jersey. Wedi bod yma bum mlynedd, aeth i ymweled a'i fam a'i frodyr i Dolwyddelan, a phan ddychwelodd daeth ei ddau frawd John a William gydag ef.

Priododd cyn hir wedi dychwelyd, yn New York gyda Miss Nellie Williams, ac yno y trigiasant hyd 11863, pryd y symadasant i Chicago, ac oddiyno i Oshkosh.

Ar ôl panic 1873, symudodd ef i weithio i Marinett, a dylynwyd ef gan ei deulu yn mhen amryw flynyddoedd. Machinist ydoedd wrth ei gelfyddyd, a bu yn hynod ddiwyd ar hyd ei oes, fel y gadawodd ei weddw a'i blant, 7 mewn nifer, yn weddol gysurus o ran amgylchiadau y byd hwn. Mae dau fab a phum merch iddo yn fyw, ac oll ond dau wedi priodi, ac yn byw yn gysurus.
EDNO.

Y Drych ~ Ionawr 10fed 1894.