MRS. ELIZABETH JONES. ROSE PLACE, JUDSON, MINNESOTA.
Ionawr 31ain, 1893, yn 76 mlwydd oed, Mrs. Elizabeth Jones, Rose Place. Judson, Minnesota, gweddw J. P. Jones, yr hwn a'i rhagflaenodd oddeutu tair blynedd.Ymfudasant i'r wlad hon o Roewen, ger Conwy, Gogledd Cymru, oddeutu 40 mlynedd yn ôl, gan ymsefydlu yn Pennsylvania, oddiyno symudasant i Cambria, Wisconsin; yna ymhen blynyddau i'r Dalaeth hon.
Gadawodd bedwar o feibion ac un ferch. oll mewn amgylchiadau cysurus. Un ohonynt yw yr awenydd ffraeth a pharod, Henry Jones, y bardd o Rose Place. Bu yr ymadawedig yn lled wael am flynyddau, yr hyn a barai iddi golli y gwahanol gyrddau crefyddol a gynelid yn Carmel (M. C.), lle yr ydoedd yn aelod, ond parhaodd i ganmol ei Harglwydd am ei ddaioni mawr tuag ati mor wastadol.
Claddwyd hi yn mynwent Minneopa Falls, ddydd Sadwrn. Chwefror 4ydd, y Parchn J. W. Roberts a J. C. Jones yn gweinyddu.
Sabboth, Chwefror l2fed, pregethodd y Parch. J. O. Jones ei phregeth angladdol oddiar y geiriau "Mi a ymdrechais ymdrech deg, gorphenais fy ngyrfa," a.y., yn ôl ei dymuniad.
GWYNGYLL.